Ar-lein, Mae'n arbed amser

Casgliad Rwbel Swmpus

Mae ein gwasanaeth rwbel swmpus bellach ar gael ar gyfer symiau mawr o rwbel a gynhyrchir gan gartrefi sy'n gwneud mân welliannau i'r cartref. Bydd rwbel yn cael ei gasglu wrth ymyl y ffordd mewn sachau tunnell a ddarperir gan y cyngor. Gellir archebu uchafswm o un sach dunnell a'i osod allan i'w gasglu.

Cysylltwch â ni ar 01685 725000 neu wasteservices@merthyr.gov.uk am gyngor pellach.

Talu am gasgliadau

Y tâl yw £60 fesul sach dunnell.  Os bydd ein criwiau'n mynychu'r eiddo ac nad yw'r rwbel yn y lle y cytunwyd arno i'w gasglu, bydd angen i chi archebu casgliad arall ac ni roddir ad-daliad.

Casgliadau a Gollwyd

  • Os na chaiff eich eitem/eitemau eu casglu am unrhyw reswm (megis tywydd garw neu gerbyd wedi torri lawr) byddwn yn ceisio cysylltu â chi gan ddefnyddio'r manylion cyswllt a ddarparwyd i ni wrth wneud y cais.
  • Gwneir pob ymdrech i gasglu ar y diwrnod gwaith nesaf

Ad-daliadau ar gyfer canslo

Gellir prosesu ad-daliadau dim ond os bydd cais yn cael ei dderbyn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful fwy na 2 ddiwrnod gwaith cyn y casgliad a drefnwyd.

Gallwch hefyd fynd â rwbel i'ch Canolfan Ailgylchu Cartref leol (HRC). Sylwch y bydd angen trwydded arnoch os ydych yn defnyddio fan i ymweld â'r GALl.

Cysylltwch â Ni