Ar-lein, Mae'n arbed amser
Claddu ac Amlosgi
Trefnu Claddu neu Amlosgiad
Pan fo person yn marw, mae’n gyffredin i deuluoedd gysylltu gydag ymgymerwr i drefnu angladd.
Mae’r ymgymerwr yn gwneud y trefniadau i gyd yn uniongyrchol gyda’r Amlosgfa ar gyfer amlosgiad neu gyda Swyddfa’r Gwasanaethau Profedigaeth yn y Cyngor Lleol ar gyfer claddu’r arch.
Bydd yr ymgymerwr hefyd yn trefnu’r gwasanaeth a’r cludiant. Mae nifer o ymgymerwyr yn gweithio ym Merthyr Tudful a’r ardaloedd cyfagos, gellir dod o hyd i fanylion rhain trwy chwilio ar-lein.
Claddu
Mae yna bum safle mynwent ym Mwrdeistref Sirol Merthyr Tudful lle y gall claddedigaethau gael eu cynnal ac mae hefyd darpariaeth ar gyfer claddu gweddillion yn sgil amlosgi.
Dyma’r safleoedd:
- Mynwent Pant, CF48 2DD, agorwyd ym 1860 ac mae oddeutu 45 erw
- Mynwent Cefn (gan gynnwys Mynwentydd Ffrwd, Pontycapel a Chapel Fach CF48 2HW, agorwyd ym 1869 ac mae oddeutu 60 erw
- Mynwent Aber-fan (gan gynnwys Mynwent Bryntaf) CF48 4PL, agorwyd ym 1876 ac mae oddeutu 8 erw. Mae Mynwent Aberfan yn Banner Gwyrdd Achrededig
- Mynwent Beechgrove, Edwardsville, CF46 5NR, agorwyd ym 1888 ac mae oddeutu 6 erw
- Mynwent Graigfargoed, Bedlinog, CF46 6SW. Cofebau yn dyddio yn ôl i 1771 ond daeth o dan weinyddiaeth CBSMT ym 1974
Nodwch: yr unig fan lle y gellir cael bedd newydd ym Mwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yw mynwent Graigfargoed ym Medlinog. Beddau a ailddefnyddir sydd ar gael ymhob mynwent arall. Bedd a ail-ddefnyddir yw un a ddefnyddiwyd er mwyn claddu dros 70 mlynedd yn ôl, sydd heb gofeb ac sydd yn berchen i’r Cyngor o hyd.
Ni tharfir ar y gladdedigaeth gyntaf wrth gloddio’r bedd ond gellir defnyddio’r dyfnder sydd uwchlaw’r gladdedigaeth gyntaf er mwyn claddu uchafswm o ddwy arch os oes digon o ddyfnder ar gael.
Amlosgfa
Nid oes amlosgfa ym Mwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Dyma’r agosaf:
Amlosgfa Llwydcoed, Llwydcoed, Aberdâr, CF44 0DJ
Amlosgfa Glyn-taf, Glyn-taf, Pontypridd, CF37 4BE
Yn dilyn amlosgiad, os yw teulu yn dymuno claddu llwch yn un o’n mynwentydd gallant wneud hyn trwy’r ymgymerwr neu’n uniongyrchol gyda’r Swyddog Gwasanaethau Profedigaeth.
Cysylltwch Bereavement.Services@merthyr.gov.uk Neu ffonio 01685 725270 am fwy o wybodaeth neu i drefnu hyn.
Nodwch nad oes gennym ardaloedd gwasgaru llwch yn ein mynwentydd. Rydym yn caniatáu gwasgaru llwch ar feddau y mae perchennog yr hawliau cyfyngedig wedi ei ganiatáu