Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym Merthyr Tudful

Gweledigaeth Merthyr Tudful ar gyfer Ailgartrefu Cyflym:

Sicrhau bod pobl sy’n ddigartref neu dan fygythiad o ddigartrefedd yn cael mynediad i’r cartref iawn ar yr amser iawn ac yn y lle iawn, fel rhan o’n dull Ailgartrefu Cyflym. Rydyn ni’n ymdrechu i sicrhau llety priodol cyn gynted â phosibl ar gyfer y rhai sydd wedi dod yn ddigartref, ynghyd â’r math cywir o gefnogaeth bersonol, er mwyn eu helpu tuag at ddyfodol diogel a chynyddu’u llesiant hyd yr eithaf. Ym Merthyr Tudful, mae digartrefedd yn cael ei atal neu mae’n beth prin, byrhoedlog ac anfynych.

Mae a wnelo Ailgartrefu Cyflym â darparu tai ar gyfer pobl sy’n wynebu digartrefedd, gan sicrhau eu bod yn cael tai sefydlog cyn gynted ag y bo modd yn hytrach na’u bod yn aros mewn llety dros dro am gyfnod rhy hir.

Mae Ailgartrefu Cyflym yn seiliedig ar yr egwyddorion o symud pobl i lety sefydlog yn gyflym. Yn ddelfrydol, bydd lletyau dros dro (er yn allweddol) yn chwarae rhan gyfyngedig o’r model.

Rhaid i’r prif ffocws fod ar atal digartrefedd ac ymyriad cynnar fel y gall mwy o bobl lwyddo i aros yn eu cartrefi eu hunain.

Mae gennym bedair blaenoriaeth strategol eang yn ein Rhaglen Cymorth Tai Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai (RhCT) 2022-26  sef:

  1. cryfhau’r gwasanaethau atal ac ymyrryd yn fuan a’r cymorth arbenigol a roir i rwystro digartrefedd;
  2. sicrhau bod pobl sy’n ddigartref neu dan fygythiad o ddigartrefedd yn cael y cartref iawn ar yr amser iawn ac yn y lle iawn, fel rhan o’n dull Ailgartrefu Cyflym;
  3. cryfhau Gwasanaethau Cymorth Tai ymhellach;
  4. cydweithio i ddarparu cymorth cyfannol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn gydag ymyriadau arbenigol effeithiol lle bo angen.

Cysylltwch â Ni