Ar-lein, Mae'n arbed amser

Fforwm Derbyn

Mae Rheoliadau Addysg (Fforymau Derbyn) (Cymru) 2003, yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol yng Nghymru sefydlu fforwm derbyn. Mae'n ofynnol i'r Fforwm gael ei gynnal ddwywaith y flwyddyn.

Adroddiad Blynyddol y Fforwm Derbyn 2023-2024

Mae gan Fforymau Derbyn rôl allweddol wrth sicrhau system dderbyn deg sy'n hawdd ac yn syml i rieni ei deall.

Mae'r Fforwm yn gyfrifol am fonitro ein cydymffurfiaeth â Chod Derbyn i Ysgolion 2013.  Mae'r fforwm yn trafod effeithiolrwydd trefniadau derbyn lleol, yn ystyried sut i ddelio â materion derbyn anodd ac yn cynghori ar ffyrdd y gellir gwella'r trefniadau.

Mae aelodaeth o'r fforwm yn cynnwys;

  • Penaethiaid Ysgolion Uwchradd
  • Penaethiaid Ysgolion Cynradd, gan gynnwys Cyfrwng Cymraeg
  • Cynrychiolydd Esgobaeth Gatholig
  • Swyddogion Awdurdodau Lleol
  • Cynrychiolydd Rhieni / Llywodraethwyr

Gwybodaeth bellach:

Cysylltwch â Ni