Ar-lein, Mae'n arbed amser

Derbyniadau cyn meithrin ac i’r ysgol feithrin

Mae plant yn gymwys am le cyn meithrin o’r tymor ysgol ar ôl eu trydydd pen blwydd. Yr amser priodol i gofrestru manylion eich plentyn yw pan fydd yn ddwy flwydd oed.

Sut i wneud cais am le cyn-feithrin a meithrin

Gwneir ceisiadau trwy lenwi ffurflen gais cyn-feithrin a meithrin. Mae ffurflenni ar gael i'w lawr lwytho a gellir eu hanfon at y Tîm Derbyniadau Ysgol i'w prosesu. Fel dewis arall, gellir gofyn am ffurflenni dros y ffôn ar 01685 725000.

Os dewiswch wneud cais trwy'r post, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau ein bod wedi'i dderbyn. Rydym yn argymell bod ffurflenni wedi'u postio yn cael eu hanfon trwy ddanfoniad wedi'i recordio gan na fyddwn yn cydnabod bod eich ffurflen yn cael ei derbyn.

Nid ydym yn gyfrifol am ffurflenni a ddychwelir trwy'r post ac ni ellir ymchwilio i ffurflenni coll heb dystiolaeth o bostio.

 Cyn ymgeisio

Sut yr ydym yn dweud wrthych am ganlyniad eich cais

O ran ceisiadau cyn meithrin/meithrin byddwch yn cael eich hysbysu’n ysgrifenedig fel a ganlyn:

Gwybodaeth i Rieni

Mae derbyn plant i ysgolion cynradd yn cael ei reoli a’i weinyddu gan ‘Awdurdod Derbyn’ ac eithrio ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir. O ran ysgolion nad ydynt yn wirfoddol a gynorthwyir CBS Merthyr Tudful yw hyn ac o ran ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir Corff Llywodraethu’r ysgol ydyw.

Fel arfer rhoddir caniatâd mynediad i ysgol gynradd ar yr amod bod digon o le ar ôl o ran y nifer derbyn. Pan fydd y nifer o geisiadau am le i ysgol yn fwy na’r nifer o leoedd sydd ar gael, pan fydd y nifer o geisiadau derbyn wedi ei gyrraedd, caiff lleoedd eu dyrannu drwy gymhwyso meini prawf gordanysgrifio a gyhoeddwyd

Os wyt ti’n rhiant sy’n gweithio, neu’n rhiant sydd ar gwrs israddedig, ôl-raddedig neu addysg bellach, fe allet ti fod yn gymwys i gael arian tuag at dy gostau gofal plant!

Dechreua dy gais heddiw: Llywodraeth Cymru Y Cynnig Addysg/Gofal Plant 30 awr | merthyr.gov.uk | Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir

Ceir 3 ysgol gynradd wirfoddol a gynorthwyir ym Merthyr Tudful. Mae Corff Llywodraethu pob Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir yn rheoli ei derbyniadau ei hun a dylid cysylltu’n uniongyrchol .

Noder: Os fydd rhieni’n cyflwyno gwybodaeth ffug yn fwriadol er mwyn ffafriaeth ysgol benodol na fyddai fel arall â’r hawl iddi, deil y Cyngor ar yr hawl i dynnu cynnig am le yn ôl. Mae’n bosibl y byddai rhieni’n gosod eu hunain i fod yn euog o drosedd o dan Adran 5(b) Deddf Anudoniaeth 1911.

Cofrestru ar gyfer Lleoedd Ysgol Feithrin 2023-24

Gallwch wneud cais ar-lein ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful:

Dechreuwch nawr 

Mae ceisiadau papur ar gael ar gais naill ai drwy ffonio (01685)724620, neu drwy e-bostio

ICS.SchoolAdmissions@merthyr.gov.uk

CYFEIRIWCH AT YR AMSERLEN ISOD AR GYFER DYDDIADAU CAU AR GYFER CEISIADAU

CARFAN DERBYN OEDRAN Y DISGYBL

CEISIADAU I'W DYCHWELYD ERBYN

PENDERFYNIAD 

CYHOEDDI HYSBYSIADAU

DYDDIAD DECHRAU

Dosbarth Meithrin Ysgolion Cynradd – Medi 2023 (h.y. 3 mlwydd oed cyn 01 Medi 2023)

Pen-blwydd yn 4 oed yn disgyn rhwng: 01 Medi 2023 a 31 Awst 2024

22 Rhagfyr 2022

31 Ionawr 2023 Medi 2023

Cyn-Feithrin Ionawr 2024

Pen-blwydd yn 3 mlwydd oed yn disgyn rhwng: 01 Medi a 31 Rhagfyr 2023

31 Mawrth 2023 28 Ebrill 2023 Ionawr 2024

Cyn-Feithrin Ebrill 2024

Pen-blwydd yn 3 mlwydd oed yn disgyn rhwng: 01 Ionawr a 31 Mawrth 2024

31 Mai 2023 30 Mehefin 2023

Ebrill 2024

RHAID DYCHWELYD POB FFURFLEN I'R TÎM DERBYN YSGOLION YN

ICS.SchoolAdmissions@merthyr.gov.uk