Ar-lein, Mae'n arbed amser

Derbyniadau i ysgolion uwchradd

Gofynnir i rieni, yn ôl y gyfraith fynegi ffafriaeth ar gyfer yr Ysgol Uwchradd y maent am i’w plentyn ei fynychu, hyd yn oed os yw’r plentyn yn mynychu ysgol gynradd clwstwr perthnasol.

Os yw’ch plentyn yn 12 oed rhwng 1 Medi 2024 a 31 Awst 2025, mae’n rhaid i chi wneud cais am le mewn Ysgol Uwchradd.

Cyn i chi wneud cais:

  • Gwiriwch Ardal Ddalgylch yr Ysgol
  • Gallwch wneud cais am hyd at 3 ysgol wahanol. Mae’n rhaid i chi osod yr ysgolion yn ôl trefn eich ffafriaeth. Dylai’r ysgol gyntaf fod yr un yr ydych yn ei ffafrio fwyaf ar gyfer eich plentyn. 
  • Rydym yn cynghori eich bod yn defnyddio pob un 3 ffafriaeth ac yn dewis ysgol eich dalgylch fel un ohonynt.
  • Os byddwch yn gwneud cais wedi’r dyddiad cau, byddwch yn llai tebygol o gael lle yn un o’r ysgolion yr ydych yn eu ffafrio. 
  • Gweler y tabl, isod am ddyddiadau cau ar gyfer ceisiadau.
  • Ar gyfer rhieni sydd yn aros am gadarnhad gan ein Tîm Anghenion Addysgol Ychwanegol (AAY) ynghylch lle posib ar gyfer eich plentyn mewn darpariaeth arbenigol fel y Ganolgan Adnoddau Dysgu (CAD) neu yn Ysgol Arbennig Greenfields, rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais am le mewn ysgol prif ffrwd yn ardal eich dalgylch. Mae hyn ar sail y ffaith nad oes sicrwydd y bydd eich plentyn yn derbyn lle mewn darpariaeth arbenigol. Drwy wneud cais ar gyfer ysgol prif ffrwd, ni fydd hyn yn cael effaith ar y penderfyniad ar gyfer darpariaeth arbenigol. Os bydd eich plentyn yn cael cynnig lle mewn darpariaeth arbenigol, gallwch wrthod y lle yn yr ysgol prif ffrwd.
  • Os na fydd eich plentyn yn cael cynnig lle mewn darpariaeth arbenigol ac y byddwch yn gwneud cais ar gyfer lle mewn ysgol prif ffrwd ar ôl y dyddiad cau, efallai na fyddwch yn cael cynnig lle yn yr ysgol yr ydych yn ei ffafrio fwyaf.

Sut i wneud cais am le mewn Ysgol Uwchradd

Mae ceisiadau’n cael eu gwneud drwy gwblhau ffurflen gais ar gyfer Dosbarth Derbyn.Gellir cyrchu’n ffurflen ar-lein drwy’r ddolen sydd ar waelod y dudalen hon.

Neu, gellir cael ffurflenni ar bapur drwy ffonio 01685 725000.

Dylai ceisiadau ar bapur gael eu dychwelyd i’r cyfeiriad canlynol:

Swyddog Derbyn i Ysgolion, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Canolfan Dinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN

Nodwch mai chi sydd yn gyfrifol am unrhyw geisiadau sydd yn cael eu hanfon drwy’r post ac rydym yn argymell fod pob cais ar bapur yn cael eu hanfon drwy ddefnyddio’r gwasanaeth post sydd wedi’i gofnodi.

Gwybodaeth i Rieni

Bydd derbyniadau i ysgolion uwchradd fel arfer yn cael eu caniatáu os bydd niferoedd derbyn yr ysgol honno yn caniatáu hynny. Pan fydd niferoedd y ceisiadau’n fwy na niferoedd derbyn yr ysgol h.y. pan fydd niferoedd derbyn wedi’i cyflawni, bydd lleoedd yn cael eu dyrannu drwy ddefnyddio’r meini prawf canlynol:

Blaenoriaeth Categori 1: ‘Plant sydd mewn Gofal’ (plant sydd mewn gofal cyhoeddus) neu sydd wedi bod mewn gofal.

Blaenoriaeth Categori 2: Plant sydd â’u cartrefu oddi fewn i ardal ddalgylch yr ysgol ac sydd â brawd neu chwaer hŷn yn mynychu’r ysgol o’r un cyfeiriad cartref ar ddyddiad y cais ac a fydd yn parhau i fynychu’r ysgol ym Medi 2024.

Blaenoriaeth Categori 3: Plant sydd â’u cartrefu oddi fewn i’r ardal ddalgylch ac na sydd â brodyr neu chwiorydd hŷn yn mynychu’r ysgol.

Blaenoriaeth Categori 4: Plant sydd â’u cartrefu y tu allan i ddalgylch yr ysgol ond sydd â brawd neu chwaer hŷn sydd yn mynychu’r ysgol o’r un cyfeiriad ar ddyddiad y cais ac a fydd yn parhau i fynychu’r ysgol ym Medi 20204.

Blaenoriaeth Categori 5: Plant sydd â’u cartrefu y tu allan i ardal ddalgylch yr ysgol nad sydd â brawd neu chwaer hŷn sydd yn mynychu’r ysgol.

Ceisiadau Hwyr

Bydd unrhyw geisiadau a fydd yn cael eu derbyn wedi’r dyddiad cau sydd yn cael ei nodi isod yn cael eu hystyried yn geisiadau hwyr. Er y bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i’r ceisiadau hyn, bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i’r ceisiadau a dderbyniwyd cyn y dyddiad cau. Bydd ceisiadu hwyr felly’n llai tebygol o gael cynnig eu dewis cyntaf yn yr ysgol sydd yn cael ei ffafrio.

Dylai unrhyw riant sydd yn gwneud cais beidio disgwyl derbyn cynnig o le mewn ysgol ar yr un adeg â rhieni sydd wedi gwneud cais cyn y dyddiad cau.

Ysgol a Gynorthwyir yn Wirfoddol

Mae 1 Ysgol sydd yn cael ei Chynorthwyo’n Wirfoddol ar gyfer plant sydd rhwng 3 ac 16 oed ym Merthyr Tudful. Mae pob Corff Llywodraethu mewn Ysgolion sydd wedi’u Cynorthwyo’n Wirfoddol yn rheoli eu gweinyddiaeth eu hunain a dylid cysylltu â hwy’n uniongyrchol.

Cyfrwng Cymraeg

Nid oes gan Ferthyr Tudful Ysgol Uwchradd Cyfrwng Cymraeg ac mae gan Ferthyr Tudful gytundeb â Chyngor Bwrdeistref Sirol  Rhondda Cynon Taf (CBSRhCT) y gall plany sydd yn dymuno derbyn addysg uwchradd trwy gyfrwng y Gymraeg fynychu Ysgol Gyfun Rhydywaun yn Aberdâr.

Er mwyn gwneud cais am le yn Ysgol Gyfun Rhydywaun, ewch i wefan Derbyh i Ysgolion CBSRhCT Applying for a school place | Rhondda Cynon Taf County Borough Council (rctcbc.gov.uk)

Rhagor o Wybodaeth

Pan fydd rhiant yn darparu gwybodaeth ffug er mwyn cael lle mewn ysgol benodol, mae hawl gan y Cyngor dynnu’r cynnig o le yn ei ôl. Gall rhieni fod yn yn euog o drosedd o dan Adran 5(b) o Ddeddf Anudoniaeth 1911.

Gwneud cais am le mewn Usgol Uwchradd ar gyfer 2024-25

Gallwch wneud cais ar-lein drwy ddefnyddio’r ddolen ganlynol:

START NOW 

Mae ceisiadau ar bapur ar gael drwy ffonio (01685) 725000, neu drwy e-bostio School.Admissions@merthyr.gov.uk

CYFEIRIWCH AT YR AMSERLEN SIOD AR GYFER DYDDIADAU CAU AR GYFER CEISIADAU 

CARFAN DERBYN OEDRAN Y DISGYBL

CEISIADAU I'W DYCHWELYD ERBYN

PENDERFYNIAD 

CYHOEDDI HYSBYSIADAU

DYDDIAD DECHRAU

Ysgol Uwchradd Blwyddyn 7 – Medi 2024 (h.y. 11 od cyn 1 Medi 2024)

12ed pen-blwydd rhwng 1 Medi 2024 a 31 Awst 2025

22 Rhagfyr 2023

1 Mawrth 2024 Mis Medi 2024

Gwybodaeth bellach:

Cysylltwch â Ni