Ar-lein, Mae'n arbed amser

Apeliadau Derbyn Ysgol

Mae gan bob ysgol ym Merthyr Tudful nifer derbyn sy'n cael ei osod drwy gyfeirio at allu'r ysgol i ddarparu ar gyfer disgyblion. Mae'r wybodaeth ganlynol yn ymwneud â threfniadau derbyn ar gyfer ysgolion cymunedol yn unig.

Gellir dod o hyd i drefniadau derbyn ar gyfer y Bendigaid Carlo Acutis yn y llyfryn derbyn ysgolion, neu'n uniongyrchol o'r ysgolion eu hunain.

Fel arfer, bydd derbyniadau i ysgolion cynradd yn cael eu rhoi ar yr amod nad eir y tu hwnt i rif derbyn ysgolion. Lle mae nifer y ceisiadau am fynediad i ysgol yn fwy na'r nifer o leoedd sydd ar gael, h.y. lle cyrhaeddir rhif derbyn, bydd lleoedd yn cael eu dyrannu drwy gymhwyso'r meini prawf gordanysgrifio canlynol;

Categori blaenoriaeth 1:  'Plant sy'n Derbyn Gofal' (plant mewn gofal cyhoeddus) a 'Plant sy'n Derbyn Gofal' blaenorol.

Categori blaenoriaeth 2: Plant y mae eu cartref y tu mewn i ddalgylch yr ysgol ac sydd â

brawd neu chwaer hŷn sy'n mynychu'r ysgol o'r un cyfeiriad, ar ddyddiad y cais, a fydd yn parhau i fynychu'r ysgol honno ym mis Medi 2024.

Categori Blaenoriaeth 3: Plant y mae eu cartref y tu mewn i ddalgylch yr ysgol nad oes ganddynt frawd neu chwaer hŷn yn mynychu'r ysgol.

Categori Blaenoriaeth 4: Plant y mae eu cartref y tu allan i ddalgylch yr ysgol ond sydd â brawd neu chwaer hŷn yn mynychu o'r un cyfeiriad, ar ddyddiad y cais, a fydd yn parhau i fynychu'r ysgol honno ym mis Medi 2024.

Categori blaenoriaeth 5: Plant y mae eu cartref y tu allan i ddalgylch yr ysgol nad oes ganddynt frawd neu chwaer hŷn yn mynychu'r ysgol.

Byddwch yn ymwybodol nad oes hawl apelio os gwrthodwyd lle cyn-meithrin neu feithrin i chi.

Yn y mwyafrif helaeth o achosion, mae plant yn cael cynnig lleoedd yn yr ysgol dewis cyntaf i'w rhieni/gofalwyr. Fodd bynnag, os na all plentyn gael ei dderbyn i ysgol a ffefrir, efallai y bydd rhieni/gofalwyr yn dymuno apelio yn erbyn y penderfyniad. Er mwyn gwneud hyn, mae'n rhaid i chi;

  1. Rhoi llythyr apêl ysgrifenedig i'r Awdurdod Lleol o fewn 10 diwrnod gwaith i'r penderfyniad derbyn.
  2. Cynnwys y wybodaeth ganlynol yn y llythyr

a. Enw a dyddiad geni eich plentyn.

b. Enw'r ysgol ffafrio y gwrthodwyd lle iddi.

c. Y rhesymau pam mae eich apêl yn cael ei gwneud.

3. Anfon y llythyr apêl at; Y Cyfarwyddwr Addysg, Y Ganolfan Ddinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN neu e-bostiwch admissions@merthyr.gov.uk.

 I gael rhagor o wybodaeth am y broses apelio, cyfeiriwch at y Polisi Derbyn i Ysgolion, y gellir ei gyrchu ar waelod y dudalen hon.

Os hoffech drafod cais eich plentyn, neu os hoffech gael cyngor pellach, cysylltwch â'r Tîm Derbyn i Ysgolion ar 01685 725000.