Nadroedd 'ac' ysgolion – y pandemig arall
Mae Nadroedd ac Ysgolion- Y Pandemig Arall yn brosiect sy'n anelu at gyrraedd pobl ifanc 11-25 oed ym Merthyr Tudful, beth bynnag fo'u cefndir neu eu profiadau bywyd. Rydym yn cael ein harwain gan banel o bobl ifanc a'n cefnogi gan sefydliadau partner, i ddarganfod beth sy'n effeithio ar iechyd meddwl, lles a gwytnwch pobl ifanc; ac i dreialu dulliau gwybodus i dargedu'r prif faterion a nodwyd.
Gan weithio ar draws Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, rydym wedi treulio amser yn ystod cyfnod gwrando'r prosiect yn estyn allan at bobl ifanc 11-25 oed yn ein cymunedau a'n hysgolion. Rydym wedi ffurfio Panel Cynghori Ieuenctid, i arwain y prosiect a gweithio gydag ystod o bartneriaid a sefydliadau sy'n ein cefnogi. Rydym wedi ymgynghori â dros 450 o bobl ifanc drwy grwpiau ffocws, digwyddiadau hwyliog, holiaduron ac ymgynghoriad 1:1. Rydym wedi casglu llawer iawn o ddata a fydd yn llywio ein gwaith.
Fel prosiect dan arweiniad pobl ifanc, rydym am i'w lleisiau gael eu clywed a'u profiadau bywyd gael eu dysgu. Maent am wella gwytnwch trwy wella perthnasoedd a meithrin ymddiriedaeth yn eu cyfoedion ar gyfer dyfodol mwy gobeithiol.