Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ffyrdd a phalmentydd a fabwysiadwyd

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, fel Awdurdod Priffyrdd, yn gyfrifol am gynnal a chadw’r holl briffyrdd a llwybrau troed a fabwysiadwyd yn y Fwrdeistref.

Mae priffyrdd nad ydynt wedi’u mabwysiadu gan y rhwydwaith priffyrdd yn parhau’n gyfrifoldeb y tirfeddiannwr.

Gallai’r Awdurdod Priffyrdd fabwysiadu priffyrdd newydd neu arfaethedig sydd wedi bodloni meini prawf dylunio presennol, yn amodol ar gyflawni ‘Cytundeb Adran 38 y Ddeddf Priffyrdd' rhwng y datblygwr a’r Awdurdod Priffyrdd.

Cedwir copi caled terfynol o’r rhwydwaith priffyrdd a fabwysiadwyd yn yr adran briffyrdd yn ein swyddfeydd yn Uned 20, Parc Diwydiannol Merthyr, Pentrebach, i’w weld yn ystod oriau gwaith arferol.

Cysylltwch â Ni