Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cynnal a Chadw

Mae’r Adran yn gyfrifol am reoli gwaith cynnal a chadw’r priffyrdd i sicrhau y caiff y rhwydwaith priffyrdd presennol ei atgyweirio a’i gynnal a’i gadw’n effeithiol.

Bydd Swyddogion Cynnal a Chadw Priffyrdd yn gwneud archwiliadau rheolaidd o’r priffyrdd i nodi tasgau cynnal a chadw i’w cynnwys yn rhaglenni’r dyfodol, yn ogystal â materion llai pwysig y mae angen sylw iddynt yn syth. Mae angen cofnodi pob archwiliad yn ofalus ar gyfer y dyfodol i nodi faint o ddirywiad sydd wedi digwydd ar stryd a chaniatáu sefydlu amddiffyniad mewn cysylltiad â hawliadau gan drydydd parti mewn achosion o ddamweiniau.

Bydd unrhyw waith sy’n ofynnol yn sgil archwiliad yn arwain at anfon archeb gwaith (yn electronig) at y tîm gweithrediadau priffyrdd a chontractwyr allanol gan ddefnyddio trefniadau cytundebol a threfniadau eraill a ganiateir gan ddeddfwriaeth, ac wedi hynny, goruchwylir a gwerthusir y gwaith a wneir.

Bydd y tîm yn archwilio ceisiadau am wasanaeth gan gwsmeriaid, Aelodau Seneddol, Aelodau’r Cynulliad, Cynghorwyr etholedig, preswylwyr a grwpiau diddordeb cyhoeddus, a lle bydd hynny’n briodol, ac os bydd y gyllideb yn caniatáu, archebir gwaith i ddatrys y problemau.

Mae Deddf Gwaith Ffyrdd a Stryd Newydd 1991yn gorfodi ymrwymiadau a chyfrifoldebau ar yr Awdurdod Strydoedd (yr Awdurdod Priffyrdd fel arfer), cwmnïau gwasanaethau cyhoeddus ac eraill sy’n gwneud gwaith ar y briffordd. Mae angen cofrestru, rheoli a chydgysylltu'r holl weithgareddau trwy law ein tîm Gwaith Stryd.

Adrodd ar broblem Cynnal a Chadw priffyrdd

Os ydych yn dymuno adrodd ar broblem cynnal chadw priffyrdd, defnyddiwch ein Ffurflen Adrodd ar Gynnal a Chadw Ffyrdd Ar-lein neu cysylltwch â ni ar y manylion isod.

Adrodd ar Geubwll

Os ydych yn dymuno adrodd ar geubwll, defnyddiwch ein Ffurflen Adrodd ar Geubwll Ar-lein, neu cysylltwch â ni ar y maylion isod.