Ar-lein, Mae'n arbed amser

Adrodd am ddodrefn stryd

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn er mwyn hysbysu am niwed i ddodrefn stryd neu am dodrefn stryd sydd ar goll.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn gyfrifol am ddarparu a chynnal a chadw dodrefn stryd, yn cynnwys y canlynol:

  • y rhan fwyaf o arwyddion goleuedig a heb eu goleuo a bolardiau
  • signalau traffig ac arwyddion â negeseuon amrywiol
  • ffensys ar y briffordd
  • rheiliau a waliau gwarchod (ond nid rhai sy’n eiddo i berchnogion preifat)
  • gwahanfuriau
  • biniau halen
  • blychau cyfrif traffig
  • seddi wrth ymyl y ffordd
  • arwyddion enwau strydoedd
  • cysgodfannau bws

Mae gan Adrannau eraill yr Awdurdod rymoedd sy’n eu galluogi i osod eitemau penodol ar y briffordd. Mae angen trwydded gan y Cyngor Bwrdeistref Sirol i gael caniatâd i osod eitemau a allai achosi rhwystr neu berygl, yn barhaol neu dros dro. Mae’r eitemau hyn yn cynnwys:

  • biniau sbwriel a baw cŵn
  • seddi wrth ymyl y ffordd
  • basgedi a photiau blodau
  • hysbysfyrddau

Mae amnewid neu ddarparu dodrefn stryd newydd yn cynnig cyfle i awdurdodau lleol ddiffinio a gwella cymeriad hanesyddol ardal gadwraeth. Gall dodrefn stryd anaddas a gormod o arwyddion ac annibendod cyffredinol niweidio cymeriad ardal gadwraeth.

Oeddech chi’n chwilio am?