Ar-lein, Mae'n arbed amser

Hysbysu am arwydd enw stryd sydd wedi ei niweidio neu sydd ar goll

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn er mwyn hysbysu am arwydd enw stryd sydd wedi ei niweidio neu sydd ar goll.

Cyfrifoldeb Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yw darparu, atgyweirio a chynnal a chadw arwyddion enwau stryd ac eithrio datblygiadau newydd, pan mai’r Datblygwr sy’n gyfrifol am osod enwau strydoedd yn unol â manyleb y Cyngor.

Wrth roi gwybod am enw stryd diffygiol neu ar goll, rhowch gymaint o wybodaeth am y lleoliad ag sy’n bosibl, er enghraifft, enw stryd, rhifau tai, rhifau colofn golau stryd, siopau, tirnodau, ac yn y blaen boed yn ddatblygiad tai newydd ai peidio.

Bydd manylion yr holl arwyddion enwau stryd diffygiol yn cael eu cynnwys mewn rhaglen atgyweirio a gaiff ei chyflawni pan fydd adnoddau ac arian ar gael.

Oeddech chi’n chwilio am?