Ar-lein, Mae'n arbed amser
Traffig a Ddifrodwyd
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn er mwyn hysbysu am niwed i oleuadau traffig.
Rhaid i’r holl arwyddion traffig a ddarperir ar y briffordd gydsynio â Rheoliadau a Chyfarwyddiadau Cyffredinol Arwyddion Traffig 2002. Rhaid i arwyddion fod yn ddwyieithog gyda’r Gymraeg uwch ben y Saesneg. Caiff arwyddion traffig eu darparu a’u cynnal a chadw ar briffyrdd mabwysiedig ledled y Fwrdeistref Sirol er mwyn rhoi gwybodaeth i’r defnyddiwr gwasanaeth. Prif grwpiau’r arwyddion yw:
- Arwyddion rhybuddio, triongl gan fwyaf
- Arwyddion rheoli e.e. cylchoedd coch
- Arwyddion cyfeirio, petryal gan fwyaf
Noder nad yw’r awdurdod yn cynnal y gefnffyrdd – A470, A460 a’r A465 (Ffordd Blaenau’r Cymoedd). Cyfrifoldeb Asiant Cefnffyrdd De Cymru yw’r ffyrdd hyn a dylid rhoi gwybod iddynt yn uniongyrchol