Ar-lein, Mae'n arbed amser

Arwyddion

Arwyddion

Rhaid i bob arwydd traffig a ddarperir ar y briffordd gydsynio â Rheoliadau a Chyfarwyddiadau Cyffredinol Arwyddion Traffig 2002. Rhaid i arwyddion fod yn ddwyieithog â’r Gymraeg uwch ben y Saesneg. Caiff arwyddion traffig eu darparu a’u cynnal ar briffyrdd a fabwysiedir ledled y Cyngor Bwrdeistref er mwyn rhoi gwybodaeth i ddefnyddiwr y ffordd. Y prif grwpiau o arwyddion yw:

  • Arwyddion rhybudd, trionglog gan fwyaf

  • Arwyddion rheoleiddio e.e. cylchoedd coch

  • Arwyddion cyfeirio, petryal gan fwyaf

Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn gyfrifol am arwyddion ar Gefnffyrdd yr A465(T)/A470(T)/A4060(T). Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymry yw hyn.

 

Rhoi gwybod am Arwydd Traffig wedi ei Ddifrodi

Am wybodaeth bellach neu er mwyn rhoi gwybod am arwydd traffig diffygiol neu ar goll cwblhewch ein ffurflen problemau ymyl y ffordd.

Cais am Arwydd Ffordd Newydd

Am unrhyw geisiadau am Arwyddion Ffordd Newydd, defnyddiwch ein ffurflen gais ar-lein.

Cysylltwch â Ni