Ar-lein, Mae'n arbed amser
Ardaloedd Treftadaeth Naturiol
Treftadaeth Naturiol
Mae gan y Fwrdeistref Sirol dreftadaeth naturiol gyfoethog a hynod sy'n cynnwys tirweddau gwerthfawr a safleoedd bioamrywiaeth. Mae tirwedd wledig yr ardal yn bennaf yn nodweddiadol am gymoedd serth gyda'u cribau uchel a gweundiroedd agored. Mae llawer o'r dirwedd wedi ei haddasu dros y canrifoedd gan weithgaredd dynol ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu mewn dau ddynodiad tirwedd hanesyddol, sef Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Merthyr Tudful a Thirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig Comin Gelligaer. O ran bioamrywiaeth, mae gan y Fwrdeistref Sirol ddau safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig (SODdGA), un warchodfa natur leol (GNL), tua chwedeg chwech o safleoedd o bwysigrwydd ar gyfer cadwraeth natur a nifer o rywogaethau gwarchodedig a rhywogaethau â blaenoriaeth.
Rhaid i'r adnodd amgylcheddol pwysig hwn gael ei reoli'n sensitif a rhaid i ddatblygiad newydd o fewn yr ardaloedd hyn fod yn briodol a chael eu rheoli'n gywir er mwyn atal niwed. Mae'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) yn ceisio cyflawni hyn trwy nifer o bolisïau ar draws y fwrdeistref sy'n benodol i ardal ac yn seiliedig ar bynciau. Y polisïau sy'n arbennig o berthnasol yw - Polisi BW5: Treftadaeth naturiol; Polisi AS4: Tirwedd hanesyddol; a Pholisi AS6: Dynodiadau cadwraeth natur lleol. Mae dynodiadau tirwedd a bioamrywiaeth cysylltiedig, fel tirweddau hanesyddol, Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Gorchmynion Cadw Coed a Safleoedd o Bwysigrwydd ar gyfer Cadwraeth Natur i'w gweld ar Fap Cynigion y CDLl
Gellir gweld Datganiad Ysgrifenedig y CDLl a'r Map Cynigion ar y dolenni canlynol:
Cynllun CDLI a Dderbyniwyd - Mai 2011
Map Cynigion 1 - Gogledd Orllewin - Bach
Map Cynigion 2 - Gogledd Ddwyrain - Bach