Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cyngor ac Arweiniad ar Gynllunio

Cyngor ac Arweiniad ar Gynllunio

Oes angen caniatâd cynllunio arnoch?
Gallai fod angen caniatâd cynllunio gan y Cyngor ar gyfer:

• Rhoi estyniad ar eich tŷ
• Adeiladu garej neu adeiladau allanol
• Waliau a ffensys
• Gosod deunydd decio a waliau cynnal
• Ymgorffori tir ychwanegol fel rhan o’ch gardd

Gallai fod angen caniatâd cynllunio yn ogystal os ydych am newid defnydd adeilad neu ddarn o dir.

Mae’n bwysig cael gwybod os oes angen caniatâd cynllunio arnoch cyn i chi ddechrau ar y gwaith gan y gallai torri rheolau cynllunio arwain at gamau gorfodi yn cael eu cymryd yn eich erbyn a’ch gorfodi i ddileu’r adeilad neu’r strwythur allai fod yn gostus iawn i’ch datblygiad.

Sut mae cael gwybod os oes angen caniatâd cynllunio arnoch?

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu dogfennau canllaw defnyddiol er mwyn esbonio pa newidiadau neu waith y gellir eu gwneud i’ch cartref heb ganiatâd cynllunio. Cyfeirir at hyn yn aml fel ‘datblygiad a ganiateir.’ Gallwch weld y dogfennau canllaw technegol a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru yma.

Nodwch nad yw’r hawliau hyn yn gymwys i fflatiau ac adeiladau maisonette.

Ansicr o hyd. . . .

Os ydych yn parhau i fod yn ansicr os oes angen caniatâd cynllunio arnoch, gallwch wneud cais i’r Cyngor am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithiol Arfaethedig. Mae hon yn ddogfen gyfreithiol sydd yn cadarnhau, yn bendant os oes angen caniatâd ai peidio. Gall y ddogfen hon roi tawelwch meddwl i chi ac mae’n ddogfen gyfreithiol ddefnyddiol os dymunwch werthu’ch eiddo.

Bydd angen i’r math hwn o gais gael ei gefnogi gan y wybodaeth ganlynol:

Ffurflen gais ar gyfer Tystysgrif Gyfreithiol Arfaethedig neu Gyfredol;

Cynllun graddfa o’r lleoliad yn dangos yr eiddo wedi ei amlinellu mewn coch a chyfeiriad y gogledd;

• Gwedd bresennol ac arfaethedig a chynlluniau llawr i raddfa fetrig gydnabyddedig (h.y. 1:50 neu 1:100)
• Cynllun bloc, graddedig yn dangos y cynnig, mewn perthynas â’r adeiladau/ffiniau presennol.
• Ffi cynllunio berthnasol.

Nodwch fod y ffi ar gyfer Tystysgrif Gyfreithiol Arfaethedig yn 50% o’r ffi ar gyfer cais am ganiatâd cynllunio llawn (sydd ar hyn o bryd yn £230).