Ar-lein, Mae'n arbed amser
50 + Gwybodaeth a Chyngor
Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn
Cyhoeddwyd trydydd cam y Strategaeth ar Gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru yn 2013. Themâu’r strategaeth oedd:
- Adnoddau Cymdeithasol
- Adnoddau Amgylcheddol
- Adnoddau Ariannol
Mae copi o’r strategaeth ar gael o’r dudalen hon.
Rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru
Bydd y Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn yn cael ei weithredu drwy’r Rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru. Disgwylir i’r 22 Awdurdod Lleol gwblhau cynllun gweithredu ar gyfer y rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru. Y pum thema a gynhwysir yn y rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru yw:
- Cymunedau Cyfeillgar i Bobl Hŷn
- Cymunedau Cefnogol i Ddementia
- Atal Cwympiadau
- Cyfleoedd i Ddysgu a Chyflogaeth Unigrwydd ac
- Arwahanrwydd
Ar draws Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf ceir un cynllun rhanbarthol Heneiddio’n Dda yng Nghymru a elwir yn Gynllun Heneiddio’n Dda yng Nghymru Cwm Taf. Ceisia’r cynllun uno gwybodaeth am yr holl ddigwyddiadau sy’n digwydd ar draws y ddau awdurdod lleol. Gellir canfod copi o’r cynllun ar y dudalen hon.
Gwybodaeth Ddefnyddiol
Cadw’n Gynnes yn y Gaeaf
Gall cadw’n gynnes dros fisoedd y gaeaf atal annwyd, ffliw neu broblemau iechyd mwy difrifol fel niwmonia. Ewch i wefan Gov.Uk i ganfod pethau syml y gallwch eu gwneud i gadw’n gynnes, aros yn iach a gwneud y mwyaf o’ch gwresogi yn y cartref.
Safonau Masnach
Rhan o gylch gwaith Safonau Masnach yw codi ymwybyddiaeth am hawliau cyfreithiol y cyhoedd ym maes contractau stepen drws. Mae ganddyn nhw brosiect ar y gweill gyda phartneriaid sef Heddlu De Cymru, Age Concern, Gwarchod Cymdogaeth a Merthyr Tudful Diogelach. Maen nhw’n cynnig cwrdd â grwpiau lleol i drafod bod yn ddioddefwr trosedd stepen drws.
Mae Safonau Masnach yn ceisio cwrdd â llawer mwy o grwpiau ac os oes diddordeb gennych i wahodd Safonau Masnach at eich grŵp i gynyddu ymwybyddiaeth yna mae croeso i chi ffonio 01685 725000. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Ttudalen Safonau Masnachu.
Cefnogi Pobl
Os ydych chi’n cael problemau cynnal eich tenantiaeth yna gallech chi fod yn gymwys i gael mynediad at Cefnogi Pobl. Mae Cefnogi Pobl yn cynnig cymorth sy’n berthnasol i dai i unigolion sy’n agored i niwed. Am ragor o fanylion ewch i'r dudalen Cefnogi Pobl sy'n Agored i Niwed ar y wefan.