Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gweithgareddau i bobl hŷn

Fforwm a Digwyddiadau 50+

Sut ydw i'n cymryd rhan?

Bob tri mis mae Fforwm 50+ Merthyr Tudful yn cwrdd i rannu gwybodaeth sydd o ddiddordeb i bobl hŷn. Mae pynciau blaenorol wedi cynnwys prosiect Hen Neuadd y Dref, Y Parc Iechyd Newydd, Cydlyniant Cymunedol a Gofal Ychwanegol.

Mae bod yn aelod o'r fforwm yn rhoi cyfle i chi fod yn rhan a dweud eich dweud am faterion pwysig yn y gymuned megis cyllideb y cyngor a gwasanaeth Heddlu De Cymru. Byddwch hefyd yn cael gwybodaeth am ddigwyddiadau gwahanol sy'n digwydd yn y fwrdeistref.

Os ydych yn cofrestru i fod yn rhan o'r fforwm 50+ nid oes gorfodaeth arnoch i fynychu pob digwyddiad neu i roi sylwadau ar bob mater a gaiff ei anfon atoch. Rydych yn gallu bod yn rhan mor fawr neu fach ag yr hoffech, ond o leiaf bydd cyfle gennych a'r wybodaeth i wneud y penderfyniad hwnnw.

Os oes diddordeb gennych mewn dod yn rhan o'r fforwm 50+ neu os hoffech ychwanegu'ch enw at y rhestr ohebiaeth er mwyn i chi gael yr wybodaeth am ddigwyddiadau yn y fwrdeistref, cysylltwch â’r Chydlynydd Hen Bobl a Chefnogi Pobl trwy’r ddolen Cysylltwch â Ni

DEWIS Cymru

Cysylltwch â Ni

Oeddech chi’n chwilio am?