Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gofal Ychwanegol

Mae Gofal Ychwanegol yn cynnig opsiwn tai ychwanegol i bobl dros 50 sy’n cael trafferth ymdopi yn eu cartref. Lleolir Tŷ Cwm yn Nhwynyrodyn. Cynllun pwrpasol a modern yw e sy’n darparu cymorth 24 awr i denantiaid gan eu galluogi i fyw mor annibynnol â phosibl yn y gymuned ar yr un pryd.

Mae’r cynllun yn darparu tenantiaeth oddi fewn i 35 o fflatiau dwbl a 25 o fflatiau sengl a addaswyd i gefnogi pobl ag anabledd.  

Oddi fewn i’r cynllun ceir cyfleusterau rhannu lolfa, golchi dillad, ystafell ymolchi â chymorth a stordy beiciau/sgwter. Mae’r cynllun hefyd yn cynnig tŷ bwyta ar y safle, salon gwallt a harddwch, ystafelloedd TG, llyfrgell, heulfan cymunedol a gerddi synhwyraidd.

Er mwyn gwneud cais am Ofal Ychwanegol gallwch ofyn i’ch rheolwr gofal. Os nad oes rheolwr gofal gennych yn gallwch wneud ymholiadau drwy ffonio 01685 724690.

DEWIS Cymru

Cysylltwch â Ni