Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gofalwyr Oedolion

Mae gofalwyr yn chwarae rhan bwysig iawn wrth ofalu ar ôl pobl eraill sy’n sâl, yn fregus neu’n anabl gan eu galluogi nhw i fyw yn eu cartrefi. Mae pobl o bob cefndir yn ofalwyr - bydd dros 3 allan o 5 o bobl yn y DU yn dyfod yn ofalwyr ar ryw adeg yn ystod eu bywydau. Gall gofalu fod yn brofiad sy’n dod â boddhad, eto mae llawer o ofalwyr yn wynebu cael eu hynysu, gwahaniaethu neu’n profi salwch.

Pa wybodaeth sydd ar gael?

Mae canllaw A-Z i ofalwyr wedi ei gynhyrchu ar y cyd gan Gynghorau Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf a Bwrdd Iechyd Cwm Taf i ymateb i Fesur Strategaethau Gofalwyr (Cymru). Bydd y Canllaw yn helpu i gael gwell deilliannau i bawb drwy ddarparu adnodd canolog o’r wybodaeth ddiweddaraf a gwasanaethau cymorth sydd wedi eu targedu i fodloni anghenion gofalwyr a phreswylwyr eraill sy’n byw yn ardal Cwm Taf.

Caiff hyfforddiant ei ddarparu hefyd i ofalwyr ar bynciau perthnasol fel Cymorth Cyntaf neu Gynorthwyo Symud y Claf â Llaw a gellir cael mynediad ato drwy’r Swyddfa Datblygu Gyrfaoedd fel uchod.

Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach gan gynnwys y cyngor gorau i Ofalwyr ar wefan Directgov.

Mae gofalwyr yn chwarae rhan bwysig iawn wrth ofalu ar ôl pobl eraill sy’n sâl, yn fregus neu’n anabl gan eu galluogi nhw i fyw yn eu cartrefi. Mae pobl o bob cefndir yn ofalwyr - bydd dros 3 allan o 5 o bobl yn y DU yn dyfod yn ofalwyr ar ryw adeg yn eu bywydau. Gall gofalu fod yn brofiad sy’n dod â boddhad, eto mae llawer o ofalwyr yn wynebu cael eu hynysu, gwahaniaethu neu’n profi salwch.

Ydych chi’n Ofalwr?

Os ydych chi’n darparu cymorth rheolaidd, di-dâl i berthynas, ffrind neu gymydog o unrhyw oedran sy’n sâl, yn fregus, ag anabledd neu salwch meddwl, yna rydych chi’n ofalwr. Gall y gofal yr ydych ei ddarparu fod yn gorfforol neu’n gefnogaeth emosiynol.

Mae Gofalwyr o bob oedran i’w canfod, yn oedolion, pobl hŷn neu’n blant. Mae gofalu am rywun yn gallu dod â boddhad ond gall hefyd ofyn am lawer oddi wrth y gofalwr ynghyd â stres a blinder ac mae’n bosibl bod gofynion y gofalwr yn wahanol i’r sawl sy’n derbyn gofal, fel y cymorth sydd ei angen.

Dod i wybod amdanoch chi a’r help sydd ei angen arnoch

Er mwyn penderfynu pa gymorth y gallwn ei gynnig i chi, mae angen i ni ddod i wybod pethau amdanoch chi a’r effaith y mae bod yn ofalwr yn ei gael ar eich bywyd. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn cynnig y math cywir o gefnogaeth i’ch galluogi chi i barhau i ofalu. Er mwyn gwneud hyn bydd angen i Reolwr Gofal siarad â chi, un ai ar eich pen eich hun neu gyda’r person yr ydych yn gofalu amdano. Rydym yn galw’r cyfarfod hwn yn asesiad.

Ceir dau fath o asesiad y gallech gymryd rhan ynddynt:

  • Asesiad Gofal Cymunedol
  • Asesiad Gofalwr

Mae asesiad gofal cymunedol yn ystyried anghenion y person yr ydych yn gofalu amdano. Gallwch gyfrannu at hwn fel rhan o’i asesiad ac mae’n bosibl y bydd unrhyw wasanaethau a ddarperir o fudd i chi.

Caiff asesiad gofalwyr ei gynnig i chi os ydych chi’n darparu gofal sylweddol i rywun yn rheolaidd a’ch bod dros 16 oed. Nid ar gyfer asesu eich gallu fel gofalwr y mae’r asesiad hwn ond ar gyfer sicrhau eich bod yn cael cynnig y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch fel unigolyn.

Eich dewis chi yw cael asesiad ai peidio ond gyda’n gilydd, gallwn gynllunio’r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch o bosibl, i’ch galluogi chi i barhau i ofalu.

 

Eich Hawliau fel Gofalwr
  • Mae gennych chi’r hawl i gael asesiad o’ch anghenion eich hun fel gofalwr. Nid oes raid i’r person sy’n gofalu amdanoch fod yn derbyn gwasanaethau oddi wrth yr awdurdod lleol i chi wneud cais am hyn.
  • Os ydych yn edrych ar ôl rhywun am gyfnodau sylweddol o amser y mae’n bosib bod gennych yr hawl i gael cefnogaeth i chi eich hun. **
  • Mae’r hawl gennych i gael eich safbwyntiau wedi eu hystyried.
  • Mae’r hawl gennych i’ch cyfraniad fel gofalwr gael ei gydnabod.
  • Mae’r hawl am gyfrinachedd gennych. Nid oes raid i’r person yr ydych yn gofalu amdano wybod eich bod wedi cysylltu â ni ac nid oes raid iddo fod yn bresennol tra’ch bod chi’n disgrifio eich anghenion wrthym ni.
  • Mae’r hawl gennych i gael gwybodaeth ynghylch gweithdrefnau cwyno. (Ar gael oddi wrth y Swyddog ar Ddyletswydd. Gweler cyfeiriad isod).

Os ydych chi’n gweithio, yn dysgu sgiliau newydd, yn mwynhau gweithgareddau hamdden neu os hoffech wneud unrhyw un o’r pethau hynny, yna rhaid eu hystyried pan fyddwch yn cael eich asesu. ** Byddwch yn ymwybodol y gallai fod tâl am y gwasanaethau yr ydych yn eu derbyn**

Pa gymorth sydd ar gael?

Mewn llawer o achosion, bydd y cymorth yr ydym yn ei ddarparu i’r person yr ydych yn gofalu amdano hefyd yn bodloni eich anghenion chi a bydd hynny’n ddigon. I rai, mae angen cymorth ychwanegol. Ymysg rhai o’r gwasanaethau sydd ar gael, ac a allai helpu i wneud gofalu ychydig yn haws a’ch helpu i barhau i ofalu, mae’r canlynol:

  • Cymorth yn y Cartref– i helpu’r person yr ydych yn gofalu amdano i aros yn ei gartref ei hun, gall hyn gynnwys offer Lifeline a Theleofal.
  • Gofal Seibiant – Hoe o’ch rôl fel gofalwr. Gall hyn fod am ychydig oriau neu sawl diwrnod.
  • Mân addasiadau i’r cartref – fel rheiliau llaw a rampiau.
  • Gwybodaeth a chyngor – i roi cymorth ac arweiniad i chi pan fydd eu hangen arnoch.
Manylion Cyswllt

Swyddog Dyletswydd i Oedolion
Parc Iechyd Keir Hardie
Ffordd Aberdâr
Merthyr Tudful
CF48 1BZ

Rhif Ffôn: 01685 724507
Rhif Ffôn Argyfwng: 01443 425012 (ar gyfer argyfwng y tu allan i oriau swyddfa)
E-bost: adult.intakeservice@merthyr.gov.uk

Oriau Agor

8.30yb - 5.00yp Dydd Llun - Dydd Iau
8.30yb - 4.30yp Dydd Gwener

DEWIS Cymru