Ar-lein, Mae'n arbed amser
Grwpiau a sefydliadau cefnogi gofalwyr
Ydych chi’n rhoi gofal a chefnogaeth i rywun sy’n dost, sy’n hŷn, sy’n dioddef o gyflwr iechyd meddwl neu anabledd ac nid ydych yn derbyn cyflog i wneud y gwaith hwn? Gall y person rydych yn gofalu amdano fod yn gyfaill, yn aelod o’r teulu neu’n gymydog. Efallai eich bod yn eu helpu i gyrraedd apwyntiadau, i baratoi prydiau bwyd neu ddiodydd, eu helpu nhw i ymolchi neu i wisgo. Tra bod hwn yn gallu bod yn beth gwerthfawr i’w wneud, gall hefyd fod yn heriol a gallwch deimlo’n unig ac yn brin o gefnogaeth eich hun.
A hoffech chi dderbyn cefnogaeth, gwybodaeth neu gyngor? Mae’n bosib y gall Partneriaeth Gofalwyr Digyflog Merthyr Tudful eich helpu!
Mae yno sefydliadu a gwasanaethau yn ardal Merthyr Tudful a all gynnig gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i chi.
Cysylltwch â’n Cydlynwyr Cefnogaeth i Ofalwyr:
Caitlin Matthews
E-bost: caitlin.matthews@merthyr.gov.uk
Rhif ffôn: 07762 408368
Caroline Lamont
E-bost: caroline.lamont@merthyr.gov.uk
Rhif ffôn: 07561 601917
Partneriaeth Gofalwyr Digyflog Merthyr Tudful
Mae Partneriaeth Gofalwyr Digyflog Merthyr Tudful yn cynnwys Awdurdod Lleol Merthyr Tudful a’n sefydliadau partner. Rydym yn cydweithio er mwyn cefnogi gofalwyr digyflog gyda’r union gefnogaeth sydd eu hangen arnynt ar yr union adeg iawn. Rydym yn sicrhau bod Gofalwyr Digyflog yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnynt a’u bod yn gwybod ym mhle i ddod o hyd i’r wybodaeth, y gefnogaeth a’r cyngor sy’n eu galluogi i barhau i roi gofal.
Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful (VAMT)
Rhif ffôn: 01685 353900
Mae’r sefydliad hwn yn cefnogi, yn cysylltu ac yn cynrychioli sefydliadau gwirfoddol a chymunedol Merthyr Tudful. Darpara gyngor ar gyllido, llywodraethu, hyfforddiant a rhwydweithio. Mae gan VAMT gysylltiadau agos â'r Awdurdod Lleol i sicrhau bod llais y sector gwirfoddol yn cael ei glywed.
Cymorth Cancr Merthyr Tudful
Rhif ffôn: 01685 379633
E-bost: info@canceraidmerthyr.co.uk
Cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i unigolion, teuluoedd a gofalwyr sydd wedi eu heffeithio gan ddiagnosis o gancr.
Pobl yn Gyntaf
Rhif ffôn: 01443 757954
E-bost: enquiries@rctpeoplefirst.org.uk
Cefnogaeth gan gyfoedion wedi arwain gan, ac ar gyfer pobl sydd ag Anghenion Dysgu.
Canolfan Hamdden Halo Merthyr Tudful
Pentref Hamdden Merthyr Tudful
Rhif ffôn: 01685 727476
Mae’r sefydliad hwn yn helpu cymunedau Merthyr Tudful i fyw bywydau heini ac iach drwy gymryd rhan mewn cyfleoedd hamdden sydd o fewn cyrraedd ac sy’n llawn hwyl.
Sefydliad Gellideg
Canolfan Les Canol-Y-Bryn,
Heol Tai Mawr, Gellideg, Merthyr Tudful CF48 1ND
01685 383929
Gweithgareddau cyfannol, cymunedol, sy’n creu cyfleoedd cadarnhaol a pharhaol i bobl Merthyr Tudful wella a chynnal lles corfforol, emosiynol a chymdeithasol.
PeoplePlus Merthyr Tudful
Gwasanaethau Byw’n Annibynnol - Merthyr Tudful
Rhif Ffôn: 01685 383340
Darpara gymorth cyflogaeth, hyfforddiant sgiliau, cymorth i fyw'n annibynnol, addysg carchar, cefnogaeth i gychwyn busnes, a chymorth i helpu cyflogwyr i ffynni.
Age Connects Morgannwg
Linc Cynon, Stryd Seymour, Aberdâr, CF44 7BL
Rhif Ffôn: 01443 490650
Gwybodaeth, cyngor a gwasanaethau i gefnogi pobl hŷn i allu parhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain yn annibynnol cyn hired â phosib. Maent yn cynnig gwybodaeth annibynnol a chyfrinachol, cyngor a chefnogaeth yn ymwneud ag amrywiaeth o faterion megis gofal, materion cyfreithiol, iechyd, tai, incwm a budd-daliadau, prynu, dysgu a gwaith.
Grŵp Facebook Gofalwyr Merthyr Tudful
https://www.facebook.com/groups/merthyrtydfilcarers/
Darpara wybodaeth ynghylch y gweithgareddau a’r digwyddiadau sydd ar y gorwel. Gwybodaeth, cyngor, cefnogaeth.