Ar-lein, Mae'n arbed amser

Anableddau Corfforol

Nam Corfforol

I gefnogi annibyniaeth oedolion a phlant ag anableddau corfforol rydym yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill i ddarparu ystod o wasanaethau i gefnogi oedolion ag anableddau corfforol ynghyd â’r rhieni sy’n gofalu amdanynt.

Ein nod yw helpu’r rheini sy’n defnyddio ein gwasanaethau i fyw bywyd cyflawn, annibynnol yn eu cymuned.

Mae gennym dimau o weithwyr cymdeithasol a Therapyddion Galwedigaethol Cymunedol a all/a fydd yn asesu’ch anghenion. Gall cymorth gynnwys y canlynol yn dibynnu ar eich anghenion:

  • Darparu cymhorthion ac offer a fydd yn eich helpu i gyflawni tasgau pob dydd;
  • Gofal gartref sy’n cynnwys gofal personol a chymorth i fyw’n annibynnol;
  • Cefnogaeth gan ein Tîm Ail-alluogi i’ch helpu i ddychwelyd adref yn saff ar ôl bod yn yr ysbyty neu i ddysgu neu ailddysgu sgiliau byw sylfaenol;
  • Darparu bathodynnau car anabl i helpu i barcio;
  • Pryd ar Glud sydd ar gael i bobl a fyddai’n ei chael hi’n anodd coginio i’w hunain;
  • Lifeline, system larwm all ddarparu’r cymorth neu’r gefnogaeth angenrheidiol trwy wasgu botwm;
  • Y gwasanaeth Teleofal sy’n defnyddio monitorau electronig i sicrhau bod defnyddwyr gwasanaethau’n ddiogel yn eu cartref eu hunain;
  • Darparu cyngor ar sut i symud i gartref gofal neu dŷ anghenion arbennig os yw’r problemau byw gartref yn rhy anodd eu goresgyn.
Cysylltwch â ni:

Swyddog Dyletswydd i Oedolion
Parc Iechyd Keir Hardie
Ffordd Aberdâr
Merthyr Tudful
CF48 1BZ

Ffôn: 01685 725000
E-bost: adult.intakeservice@merthyr.gov.uk

Oriau Agor

8.30yb - 5.00yp Dydd Llun - Dydd Iau
8.30yb - 4.30yp Dydd Gwener