Ar-lein, Mae'n arbed amser

Nam Synhwyraidd

Gwasanaethau i Bobl â Nam Synhwyraidd (Oedolion a Phlant)

Os ydych yn cael anawsterau oherwydd problemau synhwyraidd, mae’n bosibl y gall y Gyfarwyddiaeth ynghyd â sefydliadau eraill eich helpu. Rydym yn cynnig gwasanaethau arbenigol i bobl â nam synhwyraidd.

Byddwn yn dechrau trwy ymweld â chi gartref i asesu’ch anghenion a phenderfynu ar sut rydym yn gallu’ch helpu. Ar ôl dysgu am eich anawsterau byddwn yn gallu cynnig datrysiadau posibl i ddiwallu’ch anghenion orau. Gallwch chi wedyn benderfynu a ydych am gofrestru gyda’r Awdurdod Lleol. Gall eich anghenion amrywio yn dibynnu ar eich nam synhwyraidd. Ar sail ein hasesiad rydym yn gallu gweithio gyda’n gilydd i benderfynu beth y gellir ei wneud i wneud eich bywyd yn haws.

Gwasanaethau i Bobl Trwm Eu Clyw

Mae ein holl wasanaethau wedi’u teilwra i’ch anghenion unigol. Os ydych yn drwm eich clyw mae’n bosibl bod arnoch angen offer i’ch helpu i gyfathrebu ag eraill - rydym yn gallu’ch cynghori ar sut i gael cymorth gyda hyn. Rydym hefyd yn gallu cynnig gwybodaeth am ddulliau eraill o gyfathrebu megis darllen gwefusau.

Os ydych yn cael anhawster yn clywed cloch y drws, y ffôn neu’r teledu efallai rydym yn gallu helpu i roi offer arbenigol i chi megis cloch drws sy’n fflachio, ffôn â chwyddseinydd neu chwyddseinydd teledu. Mae hefyd grwpiau cefnogi ar gyfer pobl trwm eu clyw. Mae grwpiau o bobl yn dod at ei gilydd i ddysgu o’i gilydd am sut i oresgyn anawsterau tebyg ac ymdopi’n haws yn y Gymuned. Rydym yn gallu eich cysylltu â grŵp cefnogi.

Gwasanaethau i Bobl Fyddar

Os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddo Prydain rydym yn gallu eich cysylltu â chlwb lleol i bobl fyddar lle gallwch gwrdd â phobl i gyfathrebu trwy arwyddo. Rydym yn gallu rhoi gwybodaeth i’ch galluogi i gael Gwasanaeth Dehongli pan fo’i angen. Efallai byddwn yn gallu rhoi rhywun i’ch cefnogi i gyfathrebu mewn sefyllfaoedd anodd megis ymdrin â phobl mewn siopau a banciau. Ni waeth beth fo’ch problemau clyw, cysylltwch â ni. Gallwch gael yr wybodaeth hon mewn unrhyw ffurf neu fformat arall ar gais trwy gysylltu â’r Swyddog Dyletswydd.

Gwasanaethau ar gyfer Nam Gweledol

Bwriad ein holl wasanaethau yw diwallu anghenion penodol lle bynnag y bo’n bosibl. Mae gennym Swyddog Adfer a all rhoi cyngor a chymorth i chi fyw mor annibynnol ac mor ddiogel â phosibl. Gall ein saff hefyd eich helpu i fynd allan ac o gwmpas eich pethau’n hyderus gan ddefnyddio cymhorthion megis ffon neu ffon gerdded. 

Mae rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein gwasanaethau yn un o’n blaenoriaethau, felly rydych yn gallu cysylltu â’n staff arbenigol yn y Swyddfa o hyd. Mae gwybodaeth a chyngor hefyd ar gael yn ein cyfarfodydd rheolaidd yn y ganolfan gymdeithasol i bobl ddall a rhannol ddall.

Gwasanaethau i Unigolion â Nam Clywed a Gweld

Mae ein holl wasanaethau wedi’u teilwra i ddiwallu’ch anghenion unigol. Rydym yn cydnabod bod hyn yn faes gwasanaeth arbenigol. Mae gennym gysylltiadau â sefydliadau sy’n gallu darparu gwasanaeth yn ôl eich angen unigol.

Cyngor ac Offer Defnyddiol

Mae llawer o gymhorthion ar gael i wneud eich bywyd yn haws, megis llyfrau print bras, llyfrau llafar, clociau llafar a ffonau â botymau mawr. Cyhyd â bod angen wedi’i asesu, rydym yn gallu’ch helpu i’w cael. Gan ein bod yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill all eich helpu, rydym yn gallu’ch cysylltu â grwpiau defnyddiol megis 'Cymdeithas Cŵn Tywys y Deillion' a 'Chyngor Cymru i’r Deillion'. Mae papurau newydd llafar lleol hefyd yn ddefnyddiol iawn gan eu bod yn eich cadw mewn cysylltiad â digwyddiadau sy’n digwydd yn eich Cymuned.

Cysylltwch â ni:

Swyddog Dyletswydd i Oedolion
Parc Iechyd Keir Hardie
Ffordd Aberdâr
Merthyr Tudful
CF48 1BZ

Ffôn: 01685 725000
E-bost: adult.intakeservice@merthyr.gov.uk

Oriau Agor

8.30yb - 5.00yp Dydd Llun - Dydd Iau
8.30yb - 4.30yp Dydd Gwener

DEWIS Cymru

Oeddech chi’n chwilio am?