Ar-lein, Mae'n arbed amser

Asesu pa Help sydd ei Angen Arnoch

Os ydych chi’n meddwl eich bod chi neu rywun yr ydych yn gofalu amdano ag angen gofal a chymorth oddi wrth Wasanaethau Cymdeithasol, gallwch gysylltu â’r ddesg Dyletswydd Oedolion ar 01685 724500.

Bydd y Swyddog Dyletswydd yn trafod eich amgylchiadau penodol gyda chi a’r hyn sy’n bwysig i chi, gelwir hyn yn asesiad cyfatebol. Yn dilyn y drafodaeth, bydd y Swyddog Dyletswydd yn cytuno â chi ynghylch y camau ac am bwy sydd am wneud beth.

Gallai rhai enghreifftiau o ganlyniadau’r drafodaeth fod fel a ganlyn:

  • Bod y Swyddog Dyletswydd wedi darparu gwybodaeth a chyngor i chi ac nad oes angen cymorth pellach arnoch oddi wrth y Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Bod angen gwybodaeth bellach a bod asesiad dyfnach yn ofynnol ac y byddant yn trefnu hyn
  • Y byddwch yn gallu cael yr help sydd ei angen arnoch oddi wrth ffynonellau eraill fel teulu a ffrindiau neu wasanaeth wedi ei leoli yn y gymuned na chaiff ei ddarparu gan Wasanaethau Cymdeithasol
  • Nad oes angen unrhyw gymorth
  • Eich bod yn cymhwyso am gynllun gofal a chefnogaeth

Asesiad Pellach

I wneud hyn, mae’n bosibl y bydd Gweithiwr Cymdeithasol neu Swyddog Asesu ac Adolygu yn ymweld â chi a gyda’ch gilydd y byddwch yn penderfynu pa gymorth sydd ei angen arnoch i barhau i fyw yn eich cartref eich hun neu gallech chi edrych ar ffyrdd eraill o ddiwallu eich anghenion. Er mwyn gwneud hyn, bydd y Gweithiwr Cymdeithasol neu Swyddog Asesu ac Adolygu yn cwblhau asesiad dyfnach. Bydd hyn yn cynnwys:

Cael rhagor o wybodaeth amdanoch chi

  • Byddwn yn gofyn i chi am eich bywyd ac ym mha ffordd ydych chi am i’r cymorth eich helpu i ymdopi
  • Gofynnwn i’ch gŵr/gwraig neu unrhyw bartner arall neu ofalwr arall ynghylch yr hyn maen nhw’n meddwl sydd ei angen arnoch i’ch helpu i ymdopi
  • Byddwn yn siarad ag unrhyw weithwyr proffesiynol yn y maes iechyd neu weithwyr cymorth a allai fod yn rhoi cymorth i chi eisoes
  • Â’ch caniatâd chi, byddwn yn dod i wybod am sut yr ydych yn hoffi treulio eich amser nawr, a, phe byddai help gennych, beth hoffech ei wneud yn y dyfodol
  • Byddwn yn gofyn am eich iechyd a’ch anghenion corfforol, e.e. dringo grisiau, symudedd yn eich cartref a thu allan iddo, ymolchi a chael bath, gwisgo, prydau bwyd/bwyta ayb; a’ch synhwyrau (e.e. gweld, clywed ayb)

Sut ydym yn cynllunio eich cymorth

Gan ddefnyddio’r wybodaeth yr ydych chi/eich gofalwyr yn ei rhoi i ni, gallwn, ynghyd, gytuno a oes anghenion cymorth arnoch ai peidio, sut y gellir eu diwallu ac a ydych yn cymhwyso ar gyfer gofal a chymorth oddi wrth Wasanaethau Cymdeithasol. Os yw’r asesiad yn dynodi eich bod yn gymwys am ofal a chefnogaeth oddi wrth Wasanaethau Cymdeithasol, bydd y Gweithiwr Cymdeithasol neu’r Swyddog Asesu ac Adolygu yn paratoi cynllun o sut y byddwn ni, gofalwyr eraill a’ch teulu i gyd yn cydweithio i helpu i roi cymorth i chi, sef y Cynllun Cymorth a Gofal.

Cysylltwch â ni:

Swyddog Dyletswydd i Oedolion
Parc Iechyd Keir Hardie
Ffordd Aberdâr
Merthyr Tudful
CF48 1BZ

Ffôn: 01685 725000
E-bost: adult.intakeservice@merthyr.gov.uk

Oriau Agor

8.30yb - 5.00yp Dydd Llun - Dydd Iau
8.30yb - 4.30yp Dydd Gwener

DEWIS Cymru