Ar-lein, Mae'n arbed amser

Pryd ar Glud

Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn darparu Gwasanaeth Pryd ar Glud mwyach.

Er nad yw’r Cyngor yn darparu’r gwasanaeth hwn mwyach, gellir darparu cefnogaeth i bobl sy’n agored i niwed sydd wedi cael eu hasesu fel rhai sydd ag angen cymorth wrth baratoi prydau bwyd.

Beth ddylwn ei wneud os ydw i’n meddwl bod angen cefnogaeth arnaf i baratoi prydau bwyd?

Os ydych yn meddwl bod angen cefnogaeth arnoch i baratoi prydau bwyd, dylech gysylltu â’r Staff ar Ddyletswydd i Oedolion ar 01685 724500.

Bydd y staff ar ddyletswydd yn cymryd y wybodaeth gychwynnol dros y ffôn am ba gefnogaeth sydd ei hangen arnoch; ac mae’n bosibl y byddant yn trefnu ymweliad i wneud asesiad, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch ac a ydych yn bodloni meini prawf cymhwyso am y gefnogaeth.

Beth os na fyddaf yn bodloni’r meini prawf cymhwyso?

Os bydd deilliant yr asesiad yn dangos nad ydych yn cymhwyso am gefnogaeth oddi wrth y Cyngor i baratoi prydau bwyd, bydd y staff ar ddyletswydd yn rhoi gwybodaeth i chi o ran gwasanaethau eraill sydd ar gael yn yr ardal.

Ym mha ffordd y caf fy nghefnogi os ydw i’n bodloni’r meini prawf cymhwyso?

Os yw’r asesiad yn dynodi eich bod yn cymhwyso am gefnogaeth oddi wrth y Cyngor i’ch helpu i baratoi prydau bwyd, yna caiff trefniadau eu gwneud gydag un o’r darparwyr gofal yn y cartref (gofal gartref ) i alw heibio’ch cartref.

Beth fydd y gost?

Bydd rhaid talu am unrhyw gefnogaeth a ddarperir yn seiliedig ar asesiad ariannol o’ch amgylchiadau. Ticiwch yma i ymweld â’n tudalen Gofal Gartref am fanylion y gost.