Ar-lein, Mae'n arbed amser

Sut ydw i’n cael mynediad at ofal a chefnogaeth i mi fy hun neu i rywun arall?

Mae’r ddeddf Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yn newid y modd y mae Gwasanaethau Cymdeithasol yn asesu eich anghenion gofal a chefnogaeth.

  • Bydd rhagor o gyngor a chymorth ar gael 
  • Bydd asesu yn symlach yn ddibynnol ar lefel a chymhlethdod eich anghenion
  • Mae gan ofalwyr yr hawl cyfartal i gael eu hasesu am gefnogaeth
  • Byddwn yn canolbwyntio ar gadw’n dinasyddion mwyaf agored i niwed yn ddiogel rhag cael eu cam-drin a’u hesgeuluso

Pan fyddwch yn cysylltu â ni, gallwch ddisgwyl cael eich holi ynghylch beth sy’n cyfrif fwyaf i’ch ymdeimlad o hunan les a beth fyddai’n gallu helpu i wella hyn i wneud gwir wahaniaeth.


Bydd gennych chi a’ch teulu fwy o ddewis wrth benderfynu ar yr help sydd ei angen arnoch a mwy o reolaeth dros eich cynllun gofal a chefnogaeth i sicrhau eich bod yn derbyn y cymorth cywir ar yr adeg gywir.

Mae’r newidiadau hefyd yn golygu y bydd yna lawer mwy o amrywiaeth o help ar gael oddi fewn i’r gymuned leol i helpu i leihau’r angen am gymorth ffurfiol wedi ei gynllunio.

Pan fyddwn yn darparu cymorth a gwasanaethau, fel arfer dim ond am gyfnod byr fydd yr angen amdanynt, a bydd yn canolbwyntio ar roi’r sgiliau a’r hyder i chi ymdopi’n annibynnol heb ein cefnogaeth.

Pa gymorth fyddaf yn ei dderbyn?

Pan fyddwch chi, neu rywun sy’n agos atoch yn gofyn am gyngor neu gymorth, byddwn yno i’ch helpu chi ac i gynnig gwybodaeth a chyngor ar yr amrywiaeth o opsiynau sydd ar gael.
Bydd y gefnogaeth a gewch yn dibynnu ar y math o gymorth sydd ei angen arnoch, a bydd yn ystyried y canlynol: A ydych:

  • yn gallu diwallu’r angen ar eich pen eich hun, neu
  • yn gallu diwallu’r angen â gofal a chefnogaeth eraill sy’n barod i’w ddarparu, neu
  • yn gallu diwallu’r angen â chymorth gwasanaethau yr ydych yn cael mynediad atynt yn y gymuned.

Gallai’r lefel gyntaf o gefnogaeth fod yn wybodaeth a chyngor a/neu gefnogaeth oddi wrth eich cymuned leol.

Gadael yr ysbyty

Er mwyn eich helpu i ailafael yn eich hyder a/neu gryfder ar ôl arhosiad byr yn yr ysbyty, neu pan fydd angen i chi fod yn annibynnol am y tro cyntaf, gallai’r amrywiaeth o opsiynau gynnwys:

  • Gwybodaeth a chyngor am ba gefnogaeth sydd ar gael yn eich cymuned leol
  • Cymorth i gael mynediad at ofal a chefnogaeth
  • Gofal yn eich cartref
  • Offer a chymhorthion i’ch cynorthwyo
  • Mân addasiadau e.e. rheilen i’r grisiau 
Beth os oes angen rhagor o gymorth arnaf?

Os yw eich anghenion yn fwy, a bod angen rhagor o gymorth cyfredol arnoch, mae hyn yn debygol o gael ei ddarparu gan nifer o wahanol bobl neu asiantaethau.
Yn yr achos hwn, y mae’n debygol y bydd trefniadau ar gyfer eich gofal yn cael eu hysgrifennu i mewn i’ch Cynllun Gofal a Chefnogaeth. Ym maes Iechyd Meddwl, gelwir y cynllun hwn yn Gynllun Gofal a Thriniaeth.

Beth yw Cynllun Gofal a Chymorth?

Mae cynllun gofal a chymorth yn esbonio sut y bydd y deilliannau yr ydych am eu cyflawni yn cael eu bodloni ynghyd â diwallu eich anghenion – os yn bosibl yn y ffyrdd yr hoffech iddynt gael eu diwallu.

Bydd yn cynnwys yr hyn mae’r cynllun yn cynllunio ei wneud, manylion o’ch anghenion ac unrhyw wasanaethau y byddwch yn eu cael i ddiwallu’r anghenion yr ydych yn gymwys amdanynt. Fel arfer byddwn yn trefnu’r holl wasanaethau sydd eu hangen arnoch yn gyflym, ond, ar adegau, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi aros. Byddwn yn rhoi copi o’ch asesiad i chi, a fydd yn cynnwys copi o’ch Cynllun Gofal a Chymorth wedi ei atodi ato.

Bydd y Cynllun Gofal a Chymorth yn cael ei adolygu ar amser sy’n gyfleus i chi.

DEWIS Cymru

Cysylltwch â Ni

Oeddech chi’n chwilio am?