Ar-lein, Mae'n arbed amser

Talu am Ofal

Mae rhai o’r gwasanaethau a ddarperir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful am ddim – fel gwybodaeth, cyngor ac asesiadau ynghylch pa gymorth allai fod ei angen arnoch chi a’ch gofalwr. Fodd bynnag, os ydych yn cael eich asesu i fod ag angen unrhyw un o’r gwasanaethau canlynol, mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i chi gyfrannu at y gost.

Gwasanaeth Ail-alluogi

Mae ail-alluogi yn ymdrin â rhoi helpu i bobl wneud pethau drostynt eu hunain, ac i gynnal neu ailafael yn y gallu i fyw bywyd mor annibynnol ag sy’n bosibl â’r lefel priodol o gymorth. Gellir darparu hyn oddi fewn i’r gymuned neu ar ôl rhyddhau o’r ysbyty am gyfnod cyfyngedig o amser.

Bydd gofal a chymorth a ddarperir yn benodol ar gyfer ail-alluogi, gan ein Tîm Ymateb Cychwynnol, am ddim hyd at 6 wythnos. Os bydd eich gwasanaeth yn trosglwyddo o’n Tîm Ymateb Cychwynnol oddi fewn i’r cyfnod o 6 wythnos am fod uchafswm eich potensial wedi ei gyrraedd, byddwch yn cael eich asesu’n ariannol o’r dyddiad trosglwyddo yn unol â’r manylion isod, gan ddibynnu ar y gwasanaeth(au) a dderbyniwyd.

Cymorth Cymunedol

Mae Gwasanaethau Gofal a Chymorth Cymunedol yn galluogi pobl i fyw yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain ble bynnag y bo’n bosibl. Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys:

  • llety â chymorth
  • gwasanaethau gofal dydd – gweini
  • cefnogaeth yn y gwasanaethau cartref – gwasanaethau gofal personol, gwasanaethau eistedd (dydd/nos), gwasanaethau domestig cyffredinol
  • gwasanaethau a ddarperir i Ofalwyr

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn gweithio oddi fewn i fframwaith cyfyngiad ariannol ac felly’n codi tâl cyfraniad tuag at y gwasanaethau a restrir uchod. Mae hyn yn ein galluogi ni i barhau i ddarparu gwasanaeth ymatebol o ansawdd uchel.

Cyfeiriwch at daflen Talu am Gymorth Cymunedol am wybodaeth bellach am y broses asesu ariannol, uchafswm y cyfraniadau wythnosol, pwy fydd yn gorfod talu a’n proses adolygu.

Gofal Preswyl/Gofal Nyrsio

Os ydych yn cael eich asesu o fod ag angen gofal preswyl neu nyrsio, byddwn yn canfod rhagor am eich anghenion ac yn edrych ar eich sefyllfa ariannol. Gelwir hyn yn ‘Asesiad Ariannol’. Caiff taliadau tuag at ofal preswyl neu nyrsio eu cyfrifo yn unol ag Arweiniad ar godi tâl preswyl Llywodraeth Cymru o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014.

Cyfeiriwch ar y daflen Talu am Ofal Preswyl am wybodaeth bellach.

Gwasanaethau Gofal Seibiant

Mae gofal seibiant yn ofal a gaiff ei ddarparu ar sail tymor byr i bobl sydd fel arfer yn byw gartref, fel bod eu gofalwyr yn gallu cael egwyl oddi wrth ofalu.

Y person sy’n derbyn gofal ac sy’n derbyn y gofal seibiant yw’r person sy’n gymwys i dalu am y gwasanaeth. Ers Ebrill 2016, mae’r modd yr ydym yn codi tâl am ofal seibiant wedi newid o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014.

Os ydych yn derbyn gofal seibiant am gyfnod sy’n llai na 8 wythnos yn olynol byddwch yn cael eich asesu’n ariannol yn yr un modd â phe byddech yn derbyn gwasanaethau gofal a chymorth cymunedol o dan ein polisi preswyl di-dâl.

Cyfeiriwch at daflen Talu am Wasanaethau Gofal Seibiant am wybodaeth bellach.

Taliadau uniongyrchol

Mae Taliadau Uniongyrchol yn ffordd o drefnu eich gwasanaethau gofal eich hun drwy dderbyn taliad rheolaidd yn lle cael gwasanaethau wedi eu trefnu neu eu darparu gan yr Awdurdod Lleol. Mae Taliadau Uniongyrchol wedi eu cynllunio i roi hyblygrwydd i ddiwallu eich anghenion gofal yn y ffyrdd sydd fwyaf cyfleus i chi. Gyda Thaliadau Uniongyrchol rydych yn dewis pwy sy’n darparu’r gofal i ddiwallu eich anghenion, ac rydych yn rheoli pryd y caiff y gwasanaethau eu cyflenwi.

Cyfeiriwch at Canllaw Taliadau Uniongyrchol am wybodaeth bellach. 

DEWIS Cymru

Cysylltwch â Ni