Gwybodaeth i blant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal
Mae “plant sy’n derbyn gofal” yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal gan eu Hawdurdod Lleol - a ddisgrifir yn aml fel “bod mewn gofal”. Er bod y termau hyn yn gyffredin iawn, fe’u defnyddir i gyfeirio at grŵp o blant a phobl ifanc. Fodd bynnag, byddem bob amser yn ymgynghori â phlant a phobl ifanc i ofyn sut yr hoffent inni gyfeirio atynt fel unigolion, oherwydd eu bod yn unigryw.
Mae yna lawer o resymau pam mae plant a phobl ifanc yn Derbyn Gofal. Mae pob sefyllfa yn wahanol: weithiau, nid yw rhieni yn gallu gofalu am eu plant, maent yn sâl, neu efallai bod angen gwasanaethau arbenigol arnynt na ellir mo’u darparu yn y cartref.
Os na all plentyn fyw gartref gyda’i rieni, gallai gael gofal gan berthynas/ffrind neu ofalwyr maeth neu efallai y bydd angen gwasanaethau arbenigol ar ei gyfer mewn lleoliad preswyl.
Mae adegau pan fydd angen i blant a phobl ifanc dderbyn gofal am gyfnodau byr yn unig cyn dychwelyd i fyw gyda’u teulu, ond weithiau mae’r trefniant yn parhau am gyfnod hwy.
Er mwyn rhoi help i lunio’r cynllun cywir ar gyfer y plentyn/person ifanc a’i deulu, byddwn yn cynnal asesiad a fydd yn cynnwys barn y plentyn/person ifanc a’i rieni.
Beth yw Gweithiwr Cymdeithasol?
Mae gan bob plentyn neu Berson Ifanc sy’n Derbyn Gofal weithiwr penodedig a elwir yn Weithiwr Cymdeithasol. Bydd y Gweithiwr Cymdeithasol yn gweithio gyda’r plentyn/person ifanc a’i deulu i wneud yn siŵr eu bod yn cael y cymorth sydd eu hangen ar bob un ohonynt.
- Bydd ef/hi yn ymweld â’r plentyn/person ifanc yn rheolaidd ac yn rhoi eu manylion cyswllt, fel ei bod yn hawdd cysylltu â nhw.
- Bydd y Gweithiwr Cymdeithasol yn gwrando ar farn, dymuniadau a theimladau’r plentyn/person ifanc.
- Bydd y Gweithiwr Cymdeithasol yn sicrhau bod anghenion y plentyn/person ifanc yn cael eu diwallu.
- Bydd y Gweithiwr Cymdeithasol yn esbonio’r Cynllun Gofal a Chymorth i’r plentyn/person ifanc ac yn siarad am yr hyn fydd yn digwydd yn y dyfodol.
- Bydd y Gweithiwr Cymdeithasol hefyd yn esbonio mewn ffordd sy’n addas i’r plentyn/person ifanc, y rheswm ei fod yn derbyn gofal.
Dysgwch fwy am yr hyn y mae Gweithiwr Cymdeithasol yn ei wneud yn y daflen ffeithiau a’r animeiddiad isod:
Beth yw Cynllun Gofal a Chymorth?
Bydd pob Plentyn/Person Ifanc sy’n Derbyn Gofal yn meddu ar Gynllun Gofal a Chymorth. Mae gennym ddyletswydd i lunio cynllun yn ysgrifenedig. Rhaid ysgrifennu pob cynllun mewn ymgynghoriad â’r plentyn/person ifanc, rhieni a phobl ac asiantaethau pwysig eraill ym mywyd y plentyn/person ifanc.
Mae’r Cynllun Gofal a Chymorth yn egluro’r hyn y byddwn yn ei wneud i gefnogi anghenion y plentyn/person ifanc mewn perthynas ag amser teulu, iechyd, addysg, crefydd, diwylliant a hobïau. Darperir copi ar gyfer y plentyn/person ifanc, y rhieni, y gofalwyr maeth a/neu'r gofalwyr preswyl, fel bod pawb yn gwybod am yr hyn fydd yn digwydd nesaf.
Adolygir y Cynllun yn rheolaidd gan ymgynghori â’r plentyn/person ifanc, eu rhieni a’r holl weithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â’u gofal, er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i gefnogi anghenion y plentyn/person ifanc.