Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cael gwared ar anifeiliaid marw

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn casglu unrhyw anifeiliaid marw o'r briffordd i gael gwared arnyn nhw h.y. dafad marw wrth ochr y ffordd.

Os ydych yn dymuno cael gwared ar anifail anwes sydd wedi marw byddai angen i chi wneud trefniadau. Er enghraifft, byddai milfeddyg yn cynnig y gwasanaeth hwn felly mae'r Cyngor yn eich cynghori i gysylltu â'ch milfeddyg agosaf a fydd yn gallu'ch cynghori'n briodol.

Nodwch: Ni allwn symud anifeiliaid marw o'r Cefnffyrdd A470, A4060 ac A465 (Ffordd Blaenau'r Cymoedd). Asiant Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA) sy'n gyfrifol am gefnffyrdd ac fe ddylid adrodd ynghylch yr anifail marw yn uniongyrchol iddyn nhw dros y ffôn ar 0300 123 1213