Ar-lein, Mae'n arbed amser

Adrodd dipio anghyfreithlon

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i adrodd am dipio anghyfreithlon.

Gadael gwastraff yn anghyfreithlon ar unrhyw dir yw tipio, boed yn dir preifat neu o eiddo i’r Cyngor.

Os ydych yn dyst i dipio anghyfreithlon sy’n mynd rhagddo, cysylltwch â’r Tîm Gorfodi Gwastraff ar 01685 725000 yn ystod oriau gwaith. Y tu allan i oriau gwaith ffoniwch yr Heddlu ar 999 a darparu manylion cofrestru unrhyw gerbyd oedd yn cyfranogi.

Er mwyn rhoi gwybod am dipio ar ôl iddo ddigwydd, rhowch wybod amdano ar-lein. Wrth roi gwybod am dipio anghyfreithlon rhowch gymaint o wybodaeth ag sy’n bosibl mewn perthynas â dyddiad ac amser y tipio, manylion am unrhyw bobl oedd yn cyfranogi, disgrifiad o’r math a’r nifer o eitemau a gafodd eu tipio, a manylion y cerbydau perthnasol (rhif cofrestru). Os oes tystiolaeth ffotograff neu fideo gennych, fe fyddai hynny’n ddefnyddiol. Byddwn yn clirio tipio anghyfreithlon oddi ar briffyrdd cyhoeddus cyn gynted â phosibl.

Os byddwch yn dod o hyd i wastraff wedi ei dipio’n anghyfreithlon, peidiwch â chyffwrdd ynddo na chael gwared arno gan y gall gwastraff sydd wedi ei dipio fod yn beryglus a chynnwys eitemau fel chwistrelli, gwydr wedi torri, asbestos, cemegolion gwenwynig a deunyddiau peryglus eraill.

Peidiwch ag amharu ar y safle gan y gallai fod yno dystiolaeth a allai helpu i ddynodi’r sawl sy’n gyfrifol a’u harwain at gael eu herlyn yn llwyddiannus. Rhowch wybod am hyn i ni cyn gynted ag y bo modd gan ddefnyddio’r manylion cyswllt uchod. Gofynnir i dystion wneud datganiad, petai’r mater yn mynd i’r llys. Noder y gallai fod yn ofynnol i dystion ymddangos mewn llys.

Ein cyngor i chi yw peidiwch â mynd at unrhyw un sy’n tipio’n anghyfreithlon gan y gallai fod yn dreisgar/ ymosodol.

A oes angen i mi roi fy manylion pan fyddaf yn tipio’n anghyfreithlon?

Mae gennych yr hawl i fod yn ddienw pan fyddwch yn adrodd yn ôl am unrhyw ddigwyddiad o dipio, fodd bynnag mae hyn yn ei wneud yn anodd cael unrhyw wybodaeth bellach am y gŵyn os yw’n ofynnol.

Ni all y Cyngor glirio unrhyw wastraff sydd wedi ei adael ar dir preifat, cyfrifoldeb perchennog y tir fyddai hynny. Fodd bynnag, rydym yn anelu at archwilio pob achos o dipio anghyfreithlon.

Sut gallwn ni atal tipio anghyfreithlon?

  • Wrth gael gwared ar unrhyw wastraff ychwanegol, mae dyletswydd arnoch i sicrhau fod yr holl wastraff yn cael ei roi i gludwr gwastraff cofrestredig. Gallwch wirio a yw cludwr gwastraff yn gofrestredig drwy ddefnyddio Cofrestr Gyhoeddus Cyfoeth Naturiol Cymru
  •  Gofynnwch i’r cludwr gwastraff roi derbynneb i chi i brofi ei fod wedi cymryd eich gwastraff
  • Gofynnwch i’r contractwr i ble y mae’n bwriadu mynd â’ch gwastraff
  • Defnyddiwch y ddwy Ganolfan: Gwastraff y Cartref ac Ailgylchu yn y fwrdeistref i gael gwared ar unrhyw wastraff y cartref sy’n weddill

Pam fod tipio anghyfreithlon yn broblem?

Mae tipio anghyfreithlon yn broblem oherwydd:

  • Gall achosi llygredd difrifol i cwrs dŵr a’r amgylchedd yn gyffredinol
  • Gall beri niwed i fywyd gwyllt ac anifeiliaid fferm
  • Y mae’n hyll, yn tynnu gwerth oddi ar eiddo a gall beri risg i bobl
  • Mae’n difetha ein hansawdd bywyd a’n mwynhad o’r amgylchedd
  • Mae ei glirio yn costio £80,000 y flwyddyn i dalwyr trethi Merthyr Tudful