Ar-lein, Mae'n arbed amser

Trwydded gyrwyr cerbydau hacni

Mae’n rhaid i unrhyw berson sy’n gyrru cerbyd sydd wedi ei drwyddedu fod yn yrrwr cerbyd hacni a/neu yrrwr cerbyd hurio preifat trwyddedig gyda’r Awdurdod Trwyddedu yn y man y maent yn bwriadu gweithio ynddo.


Mae gan Awdurdodau Trwyddedu gyfrifoldeb i sefydlu a yw ymgeisydd yn unigolyn “iach a chymwys.” Mae hyn yn cynnwys cyfres o wiriadau gan sefydliadau amrywiol fel y gall yr Awdurdod bennu bob un cais yn deg a chyson.


Er mwyn cwblhau’r broses ymgeisio, mae’n rhaid i chi ddarparu:


• Ffurflen gais sydd wedi ei chwblhau – ffurflen gaisFfurflen gais adnewyddu
• Ffurflen Ganiatâd Hawl Gyrru'r DVLA - bydd hwn yn cael ei roi i chi yn ystod eich apwyntiad;
• Tystysgrif Gwiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd – bydd cais y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn cael ei gwblhau yn ystod eich apwyntiad;
• 3 gwahanol fath o ddogfen adnabod er mwyn cwblhau gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd – dogfennau gwiriad adnabod y DBS;
• Tystysgrif Feddygol wedi ei gwblhau gan eich Meddyg Teulu – tystysgrif feddygol;
• Tystysgrif lwyddo gan Ymddiriedolaeth y Blue Lamp (The blue Lamp Trust) neu’r Diamond Advanced Motoring ar gyfer asesu tacsis - gellir dod o hyd i wybodaeth lawn yn y nodiadau canllaw isod;
• Gwiriadau cofnodion troseddol ar gyfer pob sir / gwlad yr ydych wedi byw ynddynt am gyfnod o dros 6 mis yn olynol - gellir dod o hyd i wybodaeth lawn yn y nodiadau canllaw isod;
• Eich trwydded yrru DVLA cyfredol;
• Tystiolaeth fod hawl gennych weithio yn y DU – dogfennau sy'n arddangos eich galluogrwydd I weithio yn y DU;
• Llun Pasbort.


Mae’n rhaid i bob cais gael ei wneud wyneb yn wyneb. Er mwyn gwneud cais, mae gofyn i chi drefnu apwyntiad gyda’r Adran Drwyddedi. Os byddwch yn cyrraedd heb wneud apwyntiad, mae’n annhebygol y byd staff yn eich gweld. Cysylltwch â’r Adran Drwyddedu ar 01685 725000 er mwyn trefnu apwyntiad.


Cynghorir fod y dogfennau canlynol yn cael eu darllen cyn i chi wneud apwyntiad:

 

Cysylltwch â Ni