Ar-lein, Mae'n arbed amser

Datganiad Llesiant

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol: Gweledigaeth a rennir a diben cyffredin yng Nghymrus

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ymwneud â gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol Cymru.  Am y tro cyntaf yn ôl y gyfraith bydd rhaid i gyrff cyhoeddus gael gweledigaeth a rennir a diben cyffredin.

Mae DLlC yn gosod saith nod llesiant yn eu lle i sicrhau ein bod ni i gyd yn gweithio tuag at gyflawni’r un weledigaeth a rennir.  Mae gan bob nod llesiant ei ddisgrifydd ei hun i helpu i adeiladu dealltwriaeth ledled Cymru.

Mae DLlC hefyd yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i fabwysiadu egwyddor datblygiad cynaliadwy wrth osod nodau llesiant ac wrth gymryd camau i gyrraedd y nodau hynny.  Yn y Ddeddf, caiff egwyddor datblygu cynaliadwy ei amlygu gan y pum ffordd o weithio.

Ein Amcanion Lles

Merthyr Tudful uchelgeisiol sy'n canolbwyntio ar ddysgu

  • Byddwn yn atgyfnerthu sut rydym ni’n galluogi pobl i dyfu a chyrraedd eu potensial.

Merthyr Tudful Iachach

  • Byddwn yn grymuso pobl i fyw bywydau annibynnol ac urddasol.

Merthyr Tudful Diogel a Ffyniannus

  • Byddwn yn cefnogi'r modd mae ein heconomi yn gwella ac yn tyfu; gan sicrhau bod pobl yn teimlo'n ddiogel yn eu hardal leol.

Merthyr Tudful Glân a Gwyrdd

  • Byddwn yn cefnogi'r gwaith o greu amgylchedd glân a gwyrdd yn awr ac yn y dyfodol.

Roedd datblygu ein hamcanion llesiant yn cynnwys ymgysylltu’n weithredol â’n rhanddeiliaid a’n cymunedau i glywed eu lleisiau a chael eu safbwyntiau. I ddarganfod mwy, gweler y ddogfen Adborth Ymgysylltu os gwelwch yn dda.

Sut fyddwn ni'n gwybod os ydym yn gwneud gwahaniaeth?

Rydym wedi nodi nifer o ddangosyddion perfformiad allweddol a fydd yn cael eu monitro, eu herio a'u hadrodd fel rhan o'n trefniadau perfformiad a gwerthuso parhaus. Bydd hyn yn ein helpu i ddysgu pa mor dda yr ydym yn ei wneud wrth gwrdd â'r amcanion lles a nodir yn ein 'Datganiad o Lles'.

Bob blwyddyn, byddwn yn crynhoi'r perfformiad a'r cynnydd a wnaed ar ffurf Hunan-Asesiad.

Yn ychwanegol at fonitro ein perfformiad ein hunain, mae Swyddfa Archwilio Cymru hefyd yn cynnal adolygiadau annibynnol. Bob blwyddyn mae Swyddfa Archwilio Cymru yn cynhyrchu adroddiad gwella blynyddol. Mae'r adroddiad hwn yn nodi pa mor dda yr ydym yn cynllunio i wella wrth gyflawni ein gwasanaethau. I ddarllen yr 'Adroddiad Gwella Blynyddol' diweddaraf ewch i wefan Archwilio Cymru.

Rhestr o ddogfennau a dolenni

 

Fersiynau blaenorol o'r datganiad lles a'r ffocws ar y dyfodol

Cysylltwch â Ni