Ar-lein, Mae'n arbed amser

Casglu Gwastraff Swmpus

Ar gyfer eitemau na allwch eu hailgylchu neu gael gwared arnynt yn eich bin olwynion, rydym yn cynnig Gwasanaeth Casglu Eitemau Swmpus.

Ailddefnyddio - rydym yn awr yn gweithio mewn partneriaeth ag adfywio Dodrefn er mwyn ailddefnyddio cymaint o eitemau o ddodrefn ag sy'n bosibl.

Ar hyn o bryd rydym yn casglu eitemau metel a nwyddau trydanol gwyn yn rhad ac am ddim. Mae'r eitemau rydym yn eu casglu am ddim yn cael eu hadolygu a gallant newid yn dibynnu ar argaeledd y farchnad ailgylchu. Ni fyddwn yn rhoi rhybudd o'r newid hwn.

Os oes gennych chi eitem fawr gartref yr hoffech chi gael ei chasglu gan ein gwasanaeth gwastraff swmpus ac nad yw ar ein rhestr, cysylltwch â ni ar 01685 725000 am gyngor pellach.

Talu am gasgliadau

Byddyn dal i godi tâl am rai eitemau a gasglwn. Y tâl yw £21.90 am hyd at 3 eitem. Os bydd ein criwiau yn mynychu'r eiddo a bod mwy o eitemau taladwy i'w casglu nag y talwyd amdanynt, yna bydd angen gwneud cais casgliad swmpus ychwanegol cyn y gellir symud yr eitemau. Bydd y gost swmpus safonol yn cael ei gymhwyso.

Gallwch drefnu bod cymysgedd o eitemau am ddim a rhai y codir tâl amdanynt yn cael eu casglu mewn un archeb. Gallwch ychwanegu hyd at 9 eitem at eich archeb.

Bydd y tâl a godir am yr archeb swmpus yn cael ei ddangos cyn i chi fynd ymlaen i'r dudalen manylion talu.

Mae'r eitemau yn y rhestr ganlynol yn rhad ac am ddim i'w casglu.

  • Rheiliau llenni (metel)
  • Uned aerdymheru
  • BBQ
  • Beic
  • Cadair gyda choesau metel
  • Popty
  • Dadleithydd
  • Peiriant golchi llestri
  • Tân trydan
  • Organ electronig
  • Offer ymarfer
  • Ffrâm tân
  • Rhewgell
  • Oergell
  • Offer gardd (metel)
  • Bwrdd smwddio
  • Lampau a goleuadau
  • Peiriant torri porfa
  • Ffrâm Gwely Metel
  • Mainc Metel
  • Cabinet Metel
  • Pen gwely metel
  • Microdon
  • Argraffydd
  • Rheiddiadur
  • Lein sy’n cylchdroi
  • Dysgyl loeren
  • Peiriant gwnïo
  • Giât grisiau
  • Bwrdd gyda choesau metel
  • Trampolinau (sydd wedi cael eu tynnu’n ddarnau)
  • Peiriant sychu dillad,
  • Teledu
  • Sugnydd llwch
  • Peiriant golchi dillad
  • Berfa (Wilber)

Codir £21.90 ar yr eitemau yn y rhestr ganlynol am hyd at 3 eitem.

  • Cadair Freichiau
  • Bath (plastig)
  • Sinc Ystafell Ymolchi
  • Ffrâm gwely (nad yw’n fetel)
  • Cabinet
  • Cabinet (nad yw’n fetel)
  • Carped
  • Cadair
  • Cot babi
  • Desg
  • Lle tân
  • Offer gardd (nad yw'n fetel)
  • Cloc Tadcu
  • Pen gwely (nad yw’n fetel)
  • Drws mewnol
  • Drysau unedau cegin yn unig **
  • Uned Gegin (mae 1 uned yn hafal i 1 eitem swmpus) byddem yn disgwyl i uned gyfan gynnwys 4 panel a drws)
  • Arwyneb cegin (uchafswm 4 troedfedd)
  • Llawr wedi ei lamineiddio ***
  • Dodrefn gardd ysgafn/bach
  • Matres
  • Drych
  • Cadair blastig
  • Bwrdd plastig
  • Drws PVC **** – Rhaid tynnu pob cwarel gwydr o’r drws cyn iddo gael ei gasglu
  • Ffrâm Drws PVC ****
  • Setî,
  • Drws Sied *
  • Panel Sied *
  • To Sied *
  • Drysau cawod
  • Gwaelod cawod
  • Bwrdd ochr
  • Soffa
  • Bwrdd,
  • Ty bach
  • Cwpwrdd Dillad
  • Ffrâm Ffenest **** - Ni ddylai'r ffrâm ffenest gynnwys gwydr ar adeg ei gasglu
  • Mainc Bren
  • Cwpwrdd Llyfrau Pren
  • Cadair bren
  • Bwrdd pren

*Nodwch os ydych am i ni gasglu sied yna bydd angen i’r holl baneli perthnasol gael eu dethol o restr y gwymplen fel y gallwn godi’r pris cywir.

**Mae 5 drws cegin gyfwerth ag un eitem swmpus. OS OES GENNYCH FWY NA 5 DRWS UNED CEGIN DEWISWCH YR OPSIWN O’R GWYMPLEN ETO.

***Llawr Laminedig (mae un ystafell gyfwerth ag 1 eitem)

****Nodwch fod un drws PVC yn un eitem, yn ffrâm drws yn un eitem ac un ffrâm ffenest yn un eitem. Dewiswch yn briodol o’r rhestr ostwng er mwyn  i’r pris cywir gael ei gosod

Bydd costau ychwanegol am y canlynol - cysylltwch â ni ar 01685 725000 i drefnu casgliad
  • Tŷ Gwydr
  • Pianos (wedi’u torri a’u pecynnu)
  • Cypyrddau ffeilio
Beth sy’n digwydd ar ôl trefnu casgliad?
  • Mae hwn yn gasgliad o ymyl y ffordd. Mae angen gadael eitemau y tu allan i'r eiddo erbyn 7am ar ddiwrnod y casgliad ond ddim cynharach na’r noson o'r blaen. Bydd unrhyw eitemau sy'n cael eu gadael allan cyn gynted â'r nos cyn y casgliad yn cael eu trin fel TIPIO ANGHYFREITHLON ac efallai y byddwch yn wynebu camau gorfodaeth o ganlyniad
  • Gallwn gasglu’r eitemau a gofnodwyd yn y cais yn unig
  • Bydd eitemau ychwanegol yn cael eu gadael y tu allan i’r eiddo
Methu Casgliadau
  • Os na chesglir eich eitem(au) am ba bynnag reswm (megis tywydd garw, problemau cerbyd ac ati) byddwn yn ceisio cysylltu â chi gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a roddwyd pan wnaethoch y cais
  • Gwnawn bob ymdrech i gasglu’r eitem(au) ar y diwrnod gwaith nesaf
Ad-daliadau am ohirio

Dim ond os yw cais gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful mwy na 2 ddiwrnod gwaith cyn y casgliad wedi'i drefnu y gellir prosesu ad-daliadau.

Gallwch hefyd eu cymryd eitemau swmpus i eich gwastraff y cartref ac ailgylchu ganolfan (canolfannau) lleol.  Cofiwch Bydd angen trwydded os ydych yn defnyddio fan ymweld y Ganolfan.

Fel arall os nad yw’ch eitemau’n gweithio neu os na ellir eu trwsio, gallwch fynd â nhw i’ch Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref leol.

Ffyrdd eraill o gael gwared ar eitemau swmpus

Mae nifer o ffyrdd y gall preswylwyr gael gwared ar eitemau swmpus neu eitemau cartref eraill na ellir eu defnyddio, gan gynnwys:

  • eu rhoi i elusen leol, sector gwirfoddol y gymuned leol neu siopau ail law lleol;
  • eu gwerthu trwy hysbysebion am ddim;
  • eu rhoi i ffrindiau neu berthnasoedd;
  • defnyddio cwmni preifat i gael gwared ar wastraff;
  • llogi sgip gan gontractwr preifat.

Cofiwch ... Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd ag iddi ddirwy benodedig yn Llys yr Ynadon a charchar efallai, a dirwy benagored yn Llys y Goron.