Ar-lein, Mae'n arbed amser

Swyddi Gwag Presennol

Swyddi: Athro Dosbarth, Ysgol Gynradd Edwardsville
Cyfeirnod y swydd: TC042-2925
Cyflog: £32,433.00 - I: £49,944.00
Graddfa Swydd: Teacher's Mainscale
Oriau Swyddi: Full time
Lleoliad: Edwardsville Primary School
Arbenigol:
CYNGOR BWRDEISTREF SIROL MERTHYR TUDFUL
ADRAN YSGOLION

YSGOL GYNRADD EDWARDSVILLE
FFORDD CAERDYDD
EDWARDSVILLE
TREHARRIS
MERTHYR TUDFUL
CF46 5NE
(01685) 351824

Nifer y disgyblion: 360 Ystod oedran 3-11 Grwp Ysgol 3
(Gan gynnwys dwy Ganolfan Adnoddau Dysgu o 8 disgybl yr un)

Angen ar gyfer Medi 2025

Athro Dosbarth - Contract Cyfnod Penodol 1 flwyddyn
Cyflog: MPS

EDWARDSVILLE YW'R LLE I-
Archwilio, Cyffroi, Rhagori


Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â'r tîm ymroddedig o staff yn Ysgol Gynradd Edwardsville.

Mae Ysgol Gynradd Edwardsville yn darparu ar gyfer plant o 3-11 oed. Mae'r ysgol yn cael ei chynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Ar hyn o bryd mae 360 o ddisgyblion ar y gofrestr.

Mae'r ysgol yn gwasanaethu'r rhan fwyaf o ben deheuol Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Mae hyn yn cynnwys ardaloedd cyffredinol Treharris, Mynwent y Crynwyr, Pentwyn, Edwardsville, Twyn-y-garreg a Chilhaul.

Mae'r mwyafrif o'n plant yn dechrau yn ein meithrinfa sydd wedi'i lleoli ar safle ar wahân yn Nhreharris. Mae’n prif safle wedi'i leoli yn Edwardsville.

Rydym hefyd yn ffodus i gael dwy Ganolfan Adnoddau Dysgu ar y safle yn ein hysgol, sy'n cynnig darpariaeth i ddisgyblion ag Anhwylder Sbectrwm Awtistig.

Gwahoddir ceisiadau gan ymarferwyr rhagorol, llawn cymhelliant.
Gallwn gynnig i chi:
• Ysgol ddeinamig yn meddu ar ddisgwyliadau uchel
• Tîm staff cyfeillgar, brwdfrydig a phlant gwych
• Cyfleoedd datblygiad proffesiynol

Dylai ymgeiswyr:
• Fwynhau herio, cefnogi ac ysgogi plant
• Ymdrechu i wneud dysgu yn hwyl ac yn berthnasol
• Bod yn llawn cymhelliant
• Gallu gweithio fel rhan o dîm
• Meddu ar ymrwymiad i godi safonau i bob plentyn
• Meddu ar weledigaeth, egni a synnwyr digrifwch

Am drafodaeth anffurfiol ynglyn â'r swydd wag hon, cysylltwch â'r Pennaeth drwy e-bost – office@edwardsville.merthyr.sch.uk

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 12:00 hanner dydd, 30 Mai 2025

Bydd y rhestr fer yn cael ei llunio ar 3 Mehefin 2025

Cynhelir Arsylwadau Gwersi yn ystod wythnos 9 Mehefin 2025

Cynhelir cyfweliadau ar 13 Mehefin 2025

Darperir rhagor o fanylion a gwybodaeth ar gyfer ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer erbyn 5 Mehefin 2025.

Sylwer: Peidiwch â defnyddio ac anfon y ffurflen gais ar-lein, lawrlwythwch yn gyntaf.

Yna, dylid e-bostio ffurflenni cais sydd wedi’u cwblhau at y pennaeth yn:
appointments@edwardsville.merthyr.sch.uk

Mae'r swydd hon yn destun gwiriad DBS manylach.