Ar-lein, Mae'n arbed amser
Gwiriwch dalgylchoedd ysgolion
Mae’r map yn dangos ysgolion ar gyfer yr ardal ond medrwch ganfod pa ddalgylch yr ydych chi’n edrych arni trwy glicio unrhyw le arall oddi fewn i’r ffiniau - bydd ffenest fechan yn rhestri’r ysgolion ar gyfer y dalgylch yr ydych wedi ei dewis. Medrwch fynd i mewn ac allan o‘r map trwy ddefnyddio + a – yn y gornel uchaf ar y chwith.
Ysgolion a Gynhelir yn Wirfoddol gan yr Eglwys
Nodwch:
- Mae’r map fel arfer yn llwytho’n gyflym, ond gall y dalgylchoedd gymryd rhai eiliadau. Byddwch yn amyneddgar.
- Ni chefnogir y cymhwysiad gan hen fersiynau o’r porwr
- Mae’r map yn gynrychiolaeth o’r dalgylch ac ni ddylid dibynnu arno er mwyn prynu eiddo.
Cyffredinol
Os yw plentyn yn symud i ddalgylch ysgol benodol ac angen lle mewn ysgol, nid yw byw yn yr ardal o reidrwydd yn gwarantu lle yn yr ysgol, os yw pob lle eisoes wedi cael ei ddyrannu.