Ar-lein, Mae'n arbed amser
Derbyniadau i ddosbarth Derbyn ysgolion cynradd
Sut i wneud cais am le mewn dosbarth derbyn ysgol gynradd
Cyn i chi wneud cais, gweler y wybodaeth ‘Gwneud Cais am le mewn ysgol ar gyfer eich plentyn.’
Gallwch wneud cais ar-lein o 31 Ionawr 2022. Mae ceisiadau ar-lein yn ffordd ddiogel a chyflym o wneud cais am le mewn ysgol.
Mae Canllaw Derbyniadau Ar-lein i Rieni ar gael i’ch helpu chi i gwblhau cais ar-lein yn llwyddiannus.
Ar ôl cyflwyno eich cais ar-lein byddwch yn derbyn cydnabyddiaeth awtomatig drwy e-bost.
Roedd y dyddiad cau ar gyfer gwneud ceisiadau ar-lein ar 23 Rhagfyr 2022. Rhaid cwblhau ceisiadau hwyr gan ddefnyddio'r botwm isod.
Os yw pen blwydd eich plentyn yn 5 oed rhwng 1 Medi 2023 a 31 Awst 2024 mae rhaid i chi wneud cais am le newydd mewn dosbarth derbyn mewn ysgol. Cafodd taflen ei hanfon atoch i’ch hysbysu o’r broses.
Dyddiad Cau Ymgeisio
Y dyddiad olaf ar gyfer gwneud cais yw 23 Rhagfyr 2022.
i wneud cais ar ôl hyn rhaid cwblhau Cais Hwyr ar gyfer eich plentyn.
Ond, os ydych yn gwneud cais drwy’r post bydd rhaid i chi gysylltu gyda ni am gais hwyr trwy e-bostio ics.schooladmissions@merthyr.gov.uk neu trwy ffonio 01685 725000. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau ei bod wedi ei gyflwyno i ni. Rydym yn awgrymu bod ffurflenni trwy’r post yn cael eu hanfon trwy recorded delivery gan nad ydym yn cydnabod derbyn eich ffurflen.
Nid ydym yn cymryd cyfrifoldeb am ffurflenni a ddychwelir trwy’r post ac ni ellir ymchwilio i ffurflenni coll heb dystiolaeth postio.
Cyn i chi ymgeisio:
- Gwiriwch eich ysgol ddalgylch leol
- Gallwch wneud cais am hyd at 3 ysgol wahanol. Rhaid i chi osod yr ysgolion yn ôl eich blaenoriaeth. Yr ysgol gyntaf ddylai fod yr un yr hoffech i’ch plentyn fynd iddi fwyaf.
- Cynghorwn eich bod chi’n defnyddio’r 3 dewis a rhoi eich ysgol ddalgylch fel un o’ch dewisiadau.
- Nid yw’n awtomatig fod plant sy’n mynychu meithrin neu cyn ysgol eisoes ym Merthyr Tudful yn cael gwarant o le yn yr ysgol honno. Rhaid i chi wneud cais am eich ysgolion dewisol drwy ddefnyddio’r broses ymgeisio ac nid yn uniongyrchol i’r ysgolion.
- Os ydych chi’n ymgeisio ar ôl y dyddiad cau rydych yn llawer llai tebygol o gael lle yn un o’ch ysgolion dewisol.
Sut yr ydym yn dweud wrthych am ganlyniad eich cais
Cewch eich hysbysu’r ysgrifenedig ar 17 Ebrill 2023.
Gwybodaeth i Rieni
Mae derbyn plant i ysgolion cynradd yn cael ei reoli a’i weinyddu gan ‘Awdurdod Derbyn’ ac eithrio ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir. O ran ysgolion nad ydynt yn wirfoddol a gynorthwyir CBS Merthyr Tudful yw hyn ac o ran ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir Corff Llywodraethu’r ysgol ydyw.
Fel arfer rhoddir caniatâd mynediad i ysgol gynradd ar yr amod bod digon o le ar ôl o ran y nifer derbyn. Pan fydd y nifer o geisiadau am le i ysgol yn fwy na’r nifer o leoedd sydd ar gael, pan fydd y nifer o geisiadau derbyn wedi ei gyrraedd, caiff lleoedd eu dyrannu drwy gymhwyso meini prawf gordanysgrifio a gyhoeddwyd.
Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir
Ceir 3 ysgol gynradd wirfoddol a gynorthwyir ym Merthyr Tudful. Mae Corff Llywodraethu pob ysgol wirfoddol a Gynorthwyir Yn rheoli ei derbyniadau ei hun a dylid cysylltu’n uniongyrchol .
- Ysgol Gynradd Gatholig Sant Aloysius
- Ysgol Gynradd Gatholig Sant Illtyd
- Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair
Noder: Os fydd rhieni’n cyflwyno gwybodaeth ffug yn fwriadol er mwyn ffafriaeth ysgol benodol na fyddai fel arall â’r hawl iddi, deil y Cyngor ar yr hawl i dynnu cynnig am le yn ôl. Mae’n bosibl y byddai rhieni’n gosod eu hunain i fod yn euog o drosedd o dan Adran 5(b) Deddf Anudoniaeth 1911.