Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gwybodaeth Derbyn i Ysgolion

Mae derbyn plant i ysgolion yn cael ei reoli a’i weinyddu gan ‘Awdurdod Derbyn.’ Ar gyfer pob Ysgol Gymunedol ym Merthyr Tudful, gan gynnwys Ysgolion Cyfrwng Cymraeg, yr Awdurdod Derbyn yw’r Tîm Derbyn i Ysgolion sydd wedi’i leoli yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. 

Ar gyfer Ysgolion Ffydd ac Ysgolion a Gynorthwyir yn Wirfoddol, yr Awdurdod Derbyn yw cyrff llywordraethu’r ysgolion penodol.

Ym Merthyr Tudful, yr ysgolion hyn yw:   

 

Derbyniadau

Mae tri chyfnod ym mywyd ysgol plentyn lle y gofynnir i riant wneud cais os ydynt am i’w plentyn fynychu ysgol.

Cyn Oed Meithrin a Meithrin

Mae plentyn yn gymwys i ddechrau mewn ysgol y tymor wedi ei ben-blwydd yn dair oed.

Rydym yn derbyn ceisiadau am leoedd Cyn Oed Meithrin a Meithrin trwy gydol y flwyddyn ac o ganlyniad, rydych yn gymwys i wneud cais o’r diwrnod y mae’ch plentyn yn cael ei eni ond mae’n briodol i wneud cais am le mewn ysgol pan fydd eich plentyn yn ddwy oed.

Mae’r tabl isod yn dangos pryd y gallai’ch plentyn ddechrau yn yr ysgol, yn ddibynnol ar pryd gafodd ei eni a dyddiad cau gwneud cais ar gyfer pob dyddiad dechrau.

Dyddiad geni rhwng

Cymwys i ddechrau

Dyddiad Cau’r Cais

1 Medi i 31 Rhagfyr

Cyn oed Meithrin o Dymor y Gwanwyn (Ionawr)

Meithrin o Dymor yr Hydref (Medi)

28 Chwefror o’r flwyddyn y mae’ch plentyn yn troi’n dair oed.

1 Ionawr i 31 Mawrth

Cyn oed Meithrin o Dymor yr Haf (Ebrill)

Meithrin o Dymor yr Hydref (Medi)

31 Mai o’r flwyddyn y mae’ch plentyn yn troi’n ddwy oed.  

1 Ebrill i 31 Awst

Meithrin o Dymor yr Hydref (Medi)

30 Tachwedd o’r flwyddyn y mae’ch plentyn yn troi’n ddwy oed.

 Mae lleoedd cyn oed meithrin ar gael yn rhan amser yn unig a bydd lleoliadau meithrin a fydd yn dechrau ym mis Medi ar gael yn llawn amser.

Dosbarth Derbyn

Bydd plentyn yn dechrau mewn Dosbarth Derbyn mewn ysgol y mis Medi sydd yn dilyn ei ben-blwydd yn bedair oed.

Nodwch na fydd disgybl yn pontio’n awtomatig i Ddosbarth Derbyn o’r Feithrin oddi fewn i’r un ysgol. Bydd rhaid gwneud cais, p’un ai y bu’ch plentyn yn mynychu’r Feithrin yn yr un ysgol ai peidio. Nid oes sicrwydd y bydd eich plentyn yn cael cynnig lle mewn Dosbarth Derbyn yn yr ysgol a hynny am iddo fynychu darpariaeth Feithrin yn yr ysgol honno.

Dylid gwneud cais am le mewn Dosbarth Derbyn yn ystod Tymor yr Hydref (Medi i Ragfyr) y mae’ch plentyn yn y Feithrin. Fel arfer, y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw diwrnod olaf tymor yr ysgol cyn Gwyliau’r Nadolig ond bydd y dyddiad penodol yn cael ei nodi ar dudlaen berthnasol y ffurflen gais.

Uwchradd

Bydd plentyn yn gymwys i ddechrau yn yr Ysgol Uwchradd yn ystod y mis Medi sydd yn dilyn ei ben-blwydd yn 11 oed.

Nodwch na fydd disgybl yn pontio’n awtomatig i Ysgol Uwchradd sydd yn yr un clwstwr â’i Ysgol Gynradd a bydd gofyn i chi wneud cais.

Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer Ysgolion Uwchradd yn ystod tymor yr Hydref (Medi i Ragfyr) ym Mlwyddyn 6. Fel arfer, y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw diwrnod olaf tymor yr ysgol cyn Gwyliau’r Nadolig ond bydd y dyddiad penodol yn cael ei nodi ar dudlaen berthnasol y ffurflen gais.

Gordanysgrifio

Bydd derbyniadau i ysgolion uwchradd fel arfer yn cael eu caniatáu os bydd niferoedd derbyn yr ysgol honno yn caniatáu hynny. Pan fydd niferoedd y ceisiadau’n fwy na niferoedd derbyn yr ysgol h.y. pan fydd niferoedd derbyn wedi’i cyflawni, bydd lleoedd yn cael eu dyrannu drwy ddefnyddio’r meini prawf canlynol:

Blaenoriaeth Categori 1: ‘Plant sydd mewn Gofal’ (plant sydd mewn gofal cyhoeddus) neu sydd wedi bod mewn gofal.

Blaenoriaeth Categori 2: Plant sydd â’u cartrefu oddi fewn i ardal ddalgylch yr ysgol ac sydd â brawd neu chwaer hŷn yn mynychu’r ysgol o’r un cyfeiriad cartref ar ddyddiad y cais ac a fydd yn parhau i fynychu’r ysgol ym Medi 2025.

Blaenoriaeth Categori 3: Plant sydd â’u cartrefu oddi fewn i’r ardal ddalgylch ac na sydd â brodyr neu chwiorydd hŷn yn mynychu’r ysgol.

Blaenoriaeth Categori 4: Plant sydd â’u cartrefu y tu allan i ddalgylch yr ysgol ond sydd â brawd neu chwaer hŷn sydd yn mynychu’r ysgol o’r un cyfeiriad ar ddyddiad y cais ac a fydd yn parhau i fynychu’r ysgol ym Medi 2025.

Blaenoriaeth Categori 5: Plant sydd â’u cartrefu y tu allan i ardal ddalgylch yr ysgol nad sydd â brawd neu chwaer hŷn sydd yn mynychu’r ysgol.

Trosglwyddo yn ystod y Tymor / Flwyddyn 

Mae hyn yn berthnasol i unrhyw geisiadau sydd yn cael eu gwneud gan rieni i drosglwyddo o un ysgol i’r llall, y tu allan i’r cyfnodau derbyn uchod.

Fel arfer, bydd hyn yn digwydd pan fydd teulu’n symud tŷ ac nad yw’n ymarferol i’r plentyn deithio i’r ysgol gyfredol bob dydd. Gall y symud cartref fod yn y Sir (ym Merthyr Tudful) neu efallai y bydd y teulu’n symud i Ferthyr Tudful.

Mae’n bwysig ystyried y pwyntiau canlynol yn ofalus cyn i chi wneud penderfyniad i newid ysgol eich plentyn.

  • Os yw’ch plentyn yn profi anawsterau yn ei ysgol bresennol a’ch bod yn ystyried ei symud, mae’n bwysig eich bod yn cysylltu â’r Pennaeth er mwyn ceisio datrys y problemau gan y dylai symud eich plentyn i ysgol arall fod yn benderfyniad terfynnol yn unig.  
  • Mae cyrhaeddiad disgyblion sydd yn newid ysgol yn is na’u cyfoedion ac mae’n is eto ymhlith disgyblion sydd wedi newid ysgol sawl gwaith.
  • Os yw’ch plentyn ar gyfnod pwysig o’i addysg (blwyddyn 10 neu 11,) mae’n debygol na fydd gan yr ysgol yr ydych yn dymuno i’ch plentyn drosglwyddo iddi yr un dewis pynciau a’i bod ar gyfnodau gwahanol o ddysgu’r cwricwlwm. Os mai dyma’r achos, efallai na fydd fodd i unrhyw waith y mae’ch plentyn eisoes wedi’i wneud ar gyfer ei TGAU gael eu defnyddio. Gallai hyn gael effaith andwyol ar ganlyniadau arholiadau eich plentyn. Os bydd eich plentyn yn gorfod symud i ysgol arall oddi fewn i’r un flwyddyn, bydd rhaid i chi wneud cais am ‘dderbyn yn ystod y tymor/yn ystod y flwyddyn.’ Gallwch wneud hyn ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn academaidd.  

Ni ellir cadw lleoedd o flaen llaw. Os ydych yn symud tŷ, gallwch wneud cais o flaen llaw cyn i chi symud ond bydd rhaid i’ch plentyn alli cymryd ei le oddi fewn 10 diwrnod i’r cynnig.

Cyn i chi wneud cais, edrychwch ar ardaloedd dalgylch ysgolion.   

Dylid cwblhau POB rhan o’r ffurflen gais cyn y gall y Tîm Derbyn i Ysgolion ei brosesu. Os bydd ceisiadau’n anghyflawn, bydd yn oedi’r broses. Mae gan ysgol 15 diwrnod i wneud penderfyniad.

Nodwch mai chi fydd yn gyfrifol am gludo’ch plentyn i unrhyw ysgol yr ydych yn ei ffafrio.

Os ydych yn aros am ganlyniad cais oddi fewn i’r flwyddyn ysgol yn ystod gwyliau’r ysgol, bydd angen i chi aros hyd nes y bydd aelod o’r Tîm Derbyn i Ysgolion ar gael i’ch cynghori o’r canlyniad.

Er mwyn newid ysgolion, ewch i’n tudalen Derbyn yn Ystod y Tymor neu Trosglwyddo Ysgol a chwblhewch ein ffurflen gais ar-lein neu cysylltwch â’r Ganolfan Cyswllt Cwsmeriaid ar 01685 725000 a gofynnwch am y Tîm Derbyn i Ysgolion.

Nid oes sicrwydd y bydd lle ar gael yn yr ysgol yr ydych yn ei ffafrio a dylai’ch plentyn barhau i fynychu ei ysgol gyfredol hyd nes y bydd trosglwyddiad yn cael ei gadarnhau.

Os credwch fod gan eich plentyn anghenion addysgu penodol a’i fod yn cyflawni’r meini prawf Ysgol Arbennig Greenfield, cysylltwch â’r Ganolfan Cyswllt Cwsmeriaid ar 01685 725000 a gofynnwch am gael siarad â’r Adran Anghenion Addysgu Ychwanegol am ragor o gyngor.