Ar-lein, Mae'n arbed amser
Adrodd am ddodrefn stryd
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn er mwyn hysbysu am niwed i ddodrefn stryd neu am dodrefn stryd sydd ar goll.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn gyfrifol am ddarparu a chynnal a chadw dodrefn stryd, yn cynnwys y canlynol:
- y rhan fwyaf o arwyddion goleuedig a heb eu goleuo a bolardiau
- signalau traffig ac arwyddion â negeseuon amrywiol
- ffensys ar y briffordd
- rheiliau a waliau gwarchod (ond nid rhai sy’n eiddo i berchnogion preifat)
- gwahanfuriau
- biniau halen
- blychau cyfrif traffig
- seddi wrth ymyl y ffordd
- arwyddion enwau strydoedd
- cysgodfannau bws
Mae gan Adrannau eraill yr Awdurdod rymoedd sy’n eu galluogi i osod eitemau penodol ar y briffordd. Mae angen trwydded gan y Cyngor Bwrdeistref Sirol i gael caniatâd i osod eitemau a allai achosi rhwystr neu berygl, yn barhaol neu dros dro. Mae’r eitemau hyn yn cynnwys:
- biniau sbwriel a baw cŵn
- seddi wrth ymyl y ffordd
- basgedi a photiau blodau
- hysbysfyrddau
Mae amnewid neu ddarparu dodrefn stryd newydd yn cynnig cyfle i awdurdodau lleol ddiffinio a gwella cymeriad hanesyddol ardal gadwraeth. Gall dodrefn stryd anaddas a gormod o arwyddion ac annibendod cyffredinol niweidio cymeriad ardal gadwraeth.