Ar-lein, Mae'n arbed amser

Polisi Cynllunio

Cynllun Datblygu Lleol Amnewid Mabwysiedig Merthyr Tudful 2016 - 2031

Mae Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Amnewid Merthyr Tudful 2016 - 2031 yn darparu fframwaith polisi cynllunio lleol ar gyfer yr ardal a chafodd ei mabwysiadu gan y Cyngor ar 29 Ionawr 2020. Dyma sail penderfyniadau cynllunio ar gyfer defnydd tir y Fwrdeistref Sirol, ac eithrio Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Canllawiau Cynllunio Atodol

Er mwyn darparu gwybodaeth bellach a chanllawiau ar bolisi a meysydd pennawd penodol, paratowyd Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) gan y Cyngor. Mae’r dogfennau hyn yn cyfeirio at bolisïau a gynhwyswyd yn y CDLl mabwysiedig diwethaf ar gyfer 2006 - 2021; fodd bynnag, mae llawer o’r egwyddorion a’r canllawiau hyn yn parhau’n berthnasol i bennu ceisiadau cynllunio.

Bydd y Cyngor yn adolygu ac yn ymgynghori ar y CCA yng ngoleuni polisi fframwaith diwygiedig a ddarperir gan CDLl Amnewid 2016 - 2031. Yn y cyfamser, ystyrir y CCA yn y broses ceisiadau cynllunio hyd nes y byddant yn cael eu hamnewid neu eu tynnu oddi yno.

Dylech ymgynghori â’r dogfennau hyn, cyn i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio:

Adroddiad Monitro Blynyddol

Rhaid i bob Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) baratoi Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB) i’r CDLl erbyn Hydref 31ain o’r flwyddyn gyntaf yn dilyn ei fabwysiadu.

Mabwysiadwyd y CDLl newydd ar Ionawr 29ain 2020 a gellir gweld yr AMB diweddaraf yma.

Astudiaeth ar y cyd ar gyfer Argaeledd Tir ar gyfer Tai

Mae’n rhaid i bod ACLl baratoi Astudiaeth ar y Cyd ar gyfer Argaeledd Tir ar gyfer tai (AATaT) yn flynyddol sy’n asesiad o bdir sydd ar gael ar gyfer tai.

Gellir gweld yr AATaT yma

Ardoll Seilwaith Cymunedol

Mae'r Ardoll Seilwaith Cymunedol (CIL) yn dâl cynllunio (yn seiliedig ar arwynebedd llawr) sy'n berthnasol i rai mathau o ddatblygiadau preswyl a manwerthu ym Mwrdeistref y Sir. Rheoliadau Ardoll Seilwaith Cymunedol 2010 (fel y'u diwygiwyd).

Gellir gweld Rhestr Rheoliad 123 yma: Rhestr Rheoliad 123 (Hydref 2019)

Mae mwy o fanylion a gwybodaeth gefndir ynglŷn â'r CIL yn y dogfennau a ganlyn:

Amserlen Codi Tâl CIL Mehefin 2014

Rheoliad 123 Rhestr Seilwaith Mehefin 2014

Porth Cynllunio Ffurflenni Cais a Chanllawiau CIL

Adroddiad Archwiliad CIL

 

Gellir prynu copïau caled o’r CDLl, CCY a’r AMB gan y Tîm Polisi Cynllunio, Uned 5, Parc Busnes Triongl, Pentrebach, Merthyr Tudful, CF48 4TQ.

 

Cysylltwch â Ni