Ar-lein, Mae'n arbed amser
Gwasanaeth ‘Tawelwch Meddwl,’ Llinell Fywyd (Larymau Cymunedol)
Mae pob un ohonom yn trysoru annibyniaeth ein cartrefu ond weithiau gall y boen meddwl o fyw ar eich pen eich hun arwain at risgiau.
Am daliad wythnosol, bychan gall unrhyw un sydd angen cymorth brys neu ofyn am gyngor a sicrwydd, ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos yn eu cartref neu’r ardd ddefnyddio Uned Llinell Fywyd. Gallech fod yn denant, perchennog/meddiannwr, yn byw â theulu, yn oedranus, yn anabl neu’n uniogolyn sydd yn agored i niwed.
Os digwydd argyfwng, pwyswch fotwm y larwm a fydd yn eich cysylltu â’r Ystafell Reoli lle y gall y Gweithredwr ddynodi pwy sydd yn galw ac o lle.
Mae’n Ystafell Reoli mewn swyddfa ddiogel yn y Ganolfan Ddinesig ac mae’n cael ei rheoli 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos gan dîm o Weithredwyr arbenigol.
Mae gan Llinell Fywyd Merthyr Tudful, 25 mlynedd o brofiad yn rheoli Gwasanaeth Larwm Cymunedol. Rydym yn aelodau o’r Sefydliad Teleofal Cenedlaethol (TSA,) y corff sydd yn cynrychioli UK Telecare (Lifeline) a’r Diwydiant Telehealth. Mae’n gwasanaeth wedi derbyn achrediad TSA mewn 4 modiwl - Teilwra Gwasanaeth, Ymdrin â Galwadau/Monitro, Gosod, Ailwerthuso.
Sut ydw i’n gwneud cais am Wasanaeth Llinell Fywyd?
Gallwch wneud cais am Wasnaeth Llinell Fywyd drwy gwblhau ffurflen gais, ar-lein. Gallwch chi eich hun wneud hyn neu gall eiriolydd neu ffrind / aelod o’r teulu ei wneud ar eich rhan.
Os hoffech drafod y mater ymhellach cyn i chi ymuno â’r gwasanaeth, cwblhewch y ffurflen ymholiadau ar-lein, isod a bydd aelod o’r staff yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.
Ymholiad ar-lein
Os oes genych ddiddordeb yn ein gwasanaeth, bydd angen i chi gwblhau’r ffurflen gais, isod a ffurflen ddebyd uniongyrchol. Wedi i chi gwblhau a chyflwyno’r ffurflen, byddwn yn cysylltu â chi er mwyn cadarnhau’ch maylion a threfnu’r gosodiad.
Ffurflen Gais
Rydym wedi ceisio cadw’r ffurflenni i’r lleiafswm ond er mwyn sicrhau fod gennym ddigon o fanylion i ymdrin ag unrhyw sefyllfa allai godi, mae angen i ni gael manylion personol, penodol e.e. Enw, Manylion Meddygol, Iaith a ffafrir, Gwybodaeth gyffredinol ynghylch eich cartref (Rhif Sêff yr allweddi/Lleoliad.)
Diwygiadau/Newid i’r Gwasanaeth/Problemau
Os oes angen diwygio’ch gwasanaeth Llinell Fywyd, cwblhewch y ffurflen ar-lein, isod.
Gellir defnyddio’r ffurflen er mwyn:
- Dynodi problemau
- Symud cyfeiriad (oddi fewn i ardal Llinell Fywyd)
- Newid eich dull talu (h.y. Debyd Uniongyrchol)
- Offer ychwanegol/newydd sydd eu hangen
Canslo’r Gwasanaeth
Os hoffech ganslo’r gwasanaeth, cwblhewch y Ffurflen Ganslo, ar-lein a dynodwch y dyddiad y dymunwch i’r gwasanaeth ddod i ben a’r rheswm dros wneud hynny. Byddwn yna’n cysylltu â chi er mwyn trafod dychwelyd yr offer. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau, byddwn yn derbyn cyfnod hysbysrwydd byrrach a byddwn yn codi tâl hyd nes y bydd yr offer wedi eu dychwelyd.
Am ragor o wybodaeth am ein Gwasanaeth a’n Taliadau, dilynwch y dolenni ar waelod y dudalen.