Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gostyngiad i’ch Treth Gyngor

Gallwch wneud cais i weld a ellir lleihau’ch bil Treth Cyngor ar sail eich incwm neu os ydych ar incwm isel neu’n hawlio Budd-daliadau.

Gallai gostyngiad 100% gael ei ddyrannu i chi yn dibynnu ar

  • eich amgylchiadau (er enghraifft incwm, nifer o blant)
  • incwm eich cartref – mae hyn yn cynnwys pethau megis cynilion, pensiwn, incwm eich partner
  • a yw’ch plant yn byw gyda chi
  • a oes oedolion eraill yn byw gyda chi

Bydd y cyfrifianellau budd-daliadau hyn yn eich helpu i ddarganfod beth y gallech ei gael.

Sut i Hawlio?

I gael mwy o wybodaeth am beth yw Gostyngiad Treth Gyngor ac i wneud hawliad, defnyddiwch y gwasanaeth budd-daliadau ar-lein.

Os ydych eisoes yn hawlio Gostyngiad Treth Gyngor mae rhaid i chi ddweud wrthym am unrhyw newidiadau.

I'n cynghori am newid, yna ymwelwch â ni i ddweud wrthym am newid.

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad

Mae angen i chi apelio’n ysgrifenedig gan roi’ch rhesymau dros eich apêl.

Mae dau fis gennym wedyn i wneud penderfyniad am eich apêl. Os nad ydych yn cael penderfyniad amserol neu os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad, gallwch apelio i Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.

Dylid cyfeirio apeliadau i’r Tribiwnlys Prisio, 22 Gold Tops, Casnewydd, NP20 4PG.

Dylech barhau i dalu’ch bil gwreiddiol hyd nes y gwneir penderfyniad am eich apêl.