Ar-lein, Mae'n arbed amser

Swyddi Gwag Presennol

Swyddi: GOFALWR, YSGOL GYNRADD PARC CYFARTHFA
Cyfeirnod y swydd: CT046-2124
Cyflog: £23,893.00 - I: £23,893.00
Graddfa Swydd: Grade 2 SCP6
Oriau Swyddi: 37 hours
Lleoliad: Cyfarthfa Park Primary School
Arbenigol:
YSGOL GYNRADD PARC CYFARTHFA
Parc Cyfarthfa
Merthyr Tudful
CF47 8RE
RHIF FFÔN 01685 351807
E-bost head@cyfarthfapark-pri.merthyr.sch.uk
Pennaeth – Mr O Morgan

GOFALWR
GRADD 2 SCP 6
£23,893 y.f.
37 awr yr wythnos

Swydd yn cychwyn Medi’r 2il 2024.

Yn dilyn ymddeoliad ein gofalwr uchel ei barch rydym yn chwilio am rywun i wneud y swydd yn ei le. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn atebol i’r Pennaeth a’r Uwch Dîm Reoli ac yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth gofalu effeithlon ac effeithiol, a bydd yn gallu gweithio mewn partneriaeth â’n tîm ysgol.

Byddai’n well gennym petai gan ddeiliad y swydd drwydded yrru lawn a defnydd o gerbyd ond nid yw’n hanfodol i’r swydd.

Beth fydd eich oriau?
• 6:30yb – 10:30yb
• 2.30yp – 6yp (5.30yp ar ddyddiau Gwener)
• Ni ellir cymryd gwyliau yn ystod y tymor ysgol

Mae’r swydd hon yn amodol ar wiriad uwch gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Gellir cwblhau ffurflenni cais arlein drwy ymweld â www.merthyr.gov.uk
Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd, gallwch gael gafael ar ffurflen gais drwy ffonio 01685 725199 a’i dychwelyd nid hwyrach na 24 o Fai i Adnoddau Dynol/ HR Administration, Y Ganolfan Ddinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN
E-bost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Rydym yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag yn gynharach na'r dyddiad cau.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn annog ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. Gallwch gyflwyno’ch ffurflen gais yn Gymraeg ac ni fydd unrhyw geisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin mewn ffordd lai ffafriol na’r ffurflenni cais a gyflwynir yn Saesneg. Os ydych chi’n llwyddo i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyfweliad cysylltwch â ni er mwyn rhoi gwybod i ni os hoffech gynnal eich cyfweld drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo i warchod a diogelu’r bobl sydd fwyaf agored i niwed o fewn ein cymuned. Cyflawnir gwiriadau cyflogaeth trwyadl ar gyfer pob un penodiad fel rhan o’n proses recriwtio a dethol.

Rhaid i bob aelod o staff gydymffurfio gyda’u cyfrifoldebau unigol a chyfrifoldebau’r sefydliad yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data, y Polisi Diogelwch Gwybodaeth ac unrhyw bolisïau gweithredol perthnasol eraill sy’n cefnogi’r rhain. Ni ddylai unrhyw fater o natur gyfrinachol gael eu datgelu na’u rhannu gydag unrhyw un anawdurdodedig na chwaith eu rhannu gyda thrydydd parti ar unrhyw amod, nid yn ystod cyfnod y swydd na chwaith wedi i’r swydd ddod i ben heblaw yn ôl y drefn briodol o fewn eich swydd neu fel sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Gallai tor-cyfrinachedd arwain at orchymyn disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth o fewn ein gweithlu ac ystyriwn ein hunan fel Cyflogwr Delfrydol, sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i mewn i bob elfen o’n gwaith. Croesawn ffurflenni cais gan bawb ac anogwn ymgeiswyr o bob grwp a chefndir i ymgeisio ac i ymuno â ni ym Mwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn gwbl ymrwymedig i waredu ar wahaniaethu yn y gweithle ac i sicrhau nad oes unrhyw wahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn ystod y broses recriwtio a dethol ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd a beichiogrwydd a mamolaeth.