Ar-lein, Mae'n arbed amser
Gwneud cais am gymeradwyo rheoliadau adeiladu
Canllawiau Ffurflen Gais
Manylion cyflwyno
Dylai ceisiadau am waith anawdurdodedig ddefnyddio'r opsiwn 'Rheoleiddio', gall cynigion eraill ddewis naill ai'r opsiynau 'Cymeradwyaeth Rheoli Adeiladu gyda Chynlluniau Llawn' neu 'Hysbysiad Adeiladu', fodd bynnag, ni ellir defnyddio'r dewis Hysbysiad Adeiladu pan fo:-
- Adeilad yn 'ddefnydd dynodedig' o dan Orchymyn Diwygio Rheoleiddiol 2005 sy'n cynnwys swyddfeydd, siopau, ffatrïoedd a gwestai a/neu mae'n weithle ac yn ddarostyngedig i Reoliad 12 (3) o Reoliadau Adeiladu 2010 (fel y'i diwygiwyd).
- Ar Adeilad Risg Uchel fel y'i diffinnir yn Adran 65 Deddf Diogelwch Adeiladu 2022.
Dylid cyflwyno'r manylion canlynol gydag un copi wedi'i chwblhau o Ffurflen Gais Rheoli Adeiladu CBSMT a'r ffi briodol.
- Cymeradwyaeth Rheoli Adeiladu gyda Chynlluniau Llawn
Manyleb a manylion adeiladu llawn ynghyd â chopïau dyblyg o gynlluniau. Bydd angen dau gopi ychwanegol o gynlluniau os bydd angen copïau papur neu un yn electronig ar gyfer gwaith mewn perthynas ag adeiladau defnydd dynodedig. - Ceisiadau am Hysbysiadau Adeiladu
Yn achos Hysbysiad Adeiladu, mae cynllun safle a manylion eraill yn unol â'r gwaith adeiladu etc i'w cyflwyno yn unol â Rheoliad 12(2)(a) - Ceisiadau Rheoleiddio
Yn unol â'r Rheoliadau Adeiladu, Rheoliad 18 (3), caiff y Cyngor ei gwneud yn ofynnol i'r ymgeisydd gymryd camau rhesymol, gan gynnwys gosod y gwaith anawdurdodedig ar agor i'w arolygu, gwneud profion a chymryd samplau fel y mae'r awdurdod yn credu yn briodol i ganfod pa waith, os o gwbl, sydd ei angen i sicrhau cydymffurfiaeth â'r ddeddfwriaeth berthnasol. - Deddf Wal Gydrannol 1996
Fe allai gwaith mewn perthynas â waliau cydrannol olygu gweithrediadau dan Ddeddf Wal Gydrannol 1996, fe ddylech ddeall y gofynion hyn cyn ymgymryd â chynigion o'r fath. Llyfryn Y Wal Gydrannol. - Tystysgrifau Cwblhau
Ni fydd Tystysgrifau Cwblhau yn cael eu cyhoeddi hyd nes y bydd tystysgrif diogelwch trydanol wedi ei dderbyn a'r ffi Rheoliadau Adeiladu perthnasol wedi ei thalu'n llawn. - Draenio
Yn amodol ar ddarpariaethau penodol dan Ddeddf Diwydiannau Dŵr 1991, mae gan berchnogion a deiliaid eiddo hawl i gysylltu eu draeniau carthffos a dŵr wyneb preifat i'r carthffosydd cyhoeddus, ble bo hynny ar gael. Mae trefniadau arbennig mewn grym ar gyfer elifion masnach. Rhaid i'r sawl sydd yn dymuno i'r cysylltiad hwn ddigwydd roi dim llai na 21 diwrnod o rybudd i'r Awdurdod. - Rheoliadau
Canllaw cyffredinol yn unig yw'r nodiadau hyn; Ceir manylion llaw ar gyflwyno'r ceisiadau yn Rheoliad 13, 14 a 21 o Reoliadau Adeiladu 2000 ac, mewn perthynas â ffioedd Rheoliadau Adeiladu gweler Rheoliadau Adeiladu (Ffioedd Awdurdod Lleol) 1998.
Pwysig: rhaid cyflwyno cynlluniau neu rybuddion I'r cyngor dan y rheoliadau adeiladu AC unrhyw ganiatâd cynllunio perthnasol a gafwyd (OS nad ydych wedi gwneud hyn eisoes fe'ch cynghorir I gysylltu â rheolaeth datblygu: (01685) 726280 / 726283, cyn dechrau AR unrhyw waith AR y safle.
Ffioedd
Rhaid i'r Cyngor godi tâl am wasanaethau Rheoleiddio Adeiladu, mae'r ffioedd yn seiliedig ar faint a math y gwaith i'w wneud.
O dan y weithdrefn Cynlluniau Llawn, rhaid talu rhan gyntaf y ffi pan fydd dogfennau'r cais yn cael eu hadneuo gyda'r Cyngor, a gweddill y ffi pan fydd y gwaith yn dechrau ar y safle.
Pan ddefnyddir Hysbysiadau Adeiladu, rhaid talu'r ffi Hysbysiad Adeiladu pan gyflwynir y cais, mae'r cyfanswm ffi yr un fath pa bynnag opsiwn a ddewisir. Nid oes angen talu ffi arall os ailgyflwynir y cais ar ôl iddo gael ei wrthod neu lle gwneir mân ddiwygiadau i'w cymeradwyo. Mae'r ffi sy'n daladwy am wasanaethau Rheoleiddio Adeiladu yn cwmpasu pob archwiliad a gynhelir gan Swyddog Rheoli Adeiladu, waeth beth fo nifer yr ymweliadau a wneir â'r datblygiad. Am wybodaeth am ffioedd cysylltwch â 01685 726263.
Canllaw i Godi Estyniad i'ch cartref

Cwestiynau Cyffredin a Gwybodaeth Ychwanegol
Cliciwch ar y ddolen i weld y Cwestiynau Cyffredin
Dolenni Defnyddiol
Defnyddiwch y dolenni canlynol i gael gwybodaeth ar amryw o bynciau o osodiadau trydanol i beryglon o lifogydd.
- Dogfennau Rheoli Adeiladu wedi eu Cymeradwyo Porth Cynllunio
- Ceisiadau cynllunio - Rheoli Datblygiad
- Rheoli Adeiladu Awdurdod Lleol LABC
- Ffenestri Cyfnewid FENSA
- Cyngor ar Fanylion Cadarn/Robust Details
- Cynllun Person Cymwys ar gyfer gosodiadau trydanol: ELECSA, CORGI, NICEIC
- Gwybodaeth Gyffredinol ar yr Amgylchedd Asiantaeth yr Amgylchedd
- Gwresogi a Choginio gyda Nwy OFTEC
- Cyngor ar berygl o lifogydd Yr Amgylchedd a Chefn Gwlad
- Gwybodaeth Radon UKRadon
- Y Ffederasiwn Gwydr a Gwydro (GGF)
- Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE)
Rhan P:-
Dod o hyd i drydanwr cofrestredig - Cofrestr o drydanwyr sy'n perthyn i'r gwahanol gynlluniau CPS www.electricalcompetentperson.co.uk
Canllawiau cyffredinol - Am gyngor, canllawiau a gwybodaeth gyffredinol mewn fformatau hawdd eu deall www.electricalsafetyfirst.org.uk/guides-and-advice
Mae'r dolenni yn yr adran hon yn cyfeirio at wefannau allanol y tu allan i reolaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Ni ellir dal Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn gyfrifol am unrhyw ddeunydd a gyhoeddir y tu allan i'r parth merthyr.gov.uk.
Gwybodaeth bellach:
- 1.4 - Ffurflen Gais Cynlluniau Llawn
- 1.5 - Ffurflen Gais Hysbysiad Adeiladu
- 1.6 - Ffurflen Gais Rheoleiddio
- 1.7 - Ffurflen Datganiad Cwblhau
- 1.8 - Ffurflen Datganiadau Deiliad Dyletswydd
- 1.9 - Ffurflen Datganiad Rheoliad 38
- 2.0 - Ffurflen Datganiad Rheoleiddio