Ar-lein, Mae'n arbed amser
Chwiliadau Cynllunio a Rhestrau Wythnosol
Mae Mynediad i'r Cyhoedd yn wasanaeth ar-lein am ddim sy'n eich galluogi i weld manylion am geisiadau cynllunio y mae'r Cyngor wedi'u cael. Mae Mynediad i'r Cyhoedd yn eich galluogi i:
- Weld ffurflenni cais, lluniadau ac atodiadau a gyflwynwyd.
- Tracio cynnydd cais
- Gweld y Rhestr Wythnosol o geisiadau a gafwyd neu benderfyniadau a wnaed
Os ydych yn dymuno gweld dogfennau cynllunio gallwch ddefnyddio'r cyfleuster chwilio isod.
Parhau i Chwiliad Mynediad Cyhoeddus
Canllawiau ar sut i weld cais cynllunio ar-lein
Nid yw'r holl wybodaeth ar gael ar-lein felly os na allwch weld yr hyn rydych yn dymuno'i weld gallwch hefyd fynd i Swyddfeydd y Cyngor, Uned 5, Parc Busnes Triongl, Pentrebach, Merthyr Tudful, CF48 4TQ, neu gysylltu â ni ar y manylion isod.
Rhestr Wythnosol
Yn ogystal i Fynediad Cyhoeddus, rydym yn cyhoeddi ceisiadau y pedwar Rhestr Wythnosol blaenorol mewn fformat PDF. Mae rhain ar gael isod.
Os oes angen gwybodaeth pellach gan gynnwys ceisiadau hŷn, mae pob ffeil ar gael I’w gweld gan ddefnyddio Mynediad Cyhoeddus.