Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ymateb Cychwynnol ac Ailalluogi

Mae’r Gwasanaeth Ymateb Cychwynnol ac Ailalluogi yn gweithio gyda phobl i wneud y mwyaf o’u lles a gwella lefelau annibyniaeth mewn gweithgareddau dyddiol yn dilyn dirywiad o ran galluogrwydd. Y nod yw rhoi cymorth i bobl aros yn eu cartrefi gyhyd ag sy’n bosibl. Mae’r timau’n gweithio ochr yn ochr â’i gilydd i sicrhau fod y gwasanaeth cywir yn cael ei ddarparu, ar yr amser cywir i ddiwallu eich anghenion penodol.

Mae’r Tîm Ailalluogi yn darparu therapi dwys a gyfyngir gan amser i gwsmeriaid yn eu cartref eu hun. Gallai hyn gynnwys cyfraniad gan ffisiotherapydd a therapydd galwedigaethol.

Bydd y therapyddion a’r staff cymorth yn gweithio gyda chi i ddynodi ‘yr hyn sy’n cyfri i chi’ ac i roi cymorth i chi gyflawni eich nodau mewn perthynas â gweithgareddau dydd i ddydd. Er enghraifft, cynyddu eich annibyniaeth gyda thasgau fel gwisgo, coginio, siopa a symud o gwmpas y tŷ a thu allan iddo.

Bydd y Gwasanaeth Ymateb Cychwynnol yn rhoi cymorth i chi am hyd at 6 wythnos boed hynny am y tro cyntaf y mae angen cymorth arnoch yn y cartref, neu’n dilyn cael eich rhyddhau o’r ysbyty.

Bydd y gwasanaeth yn eich helpu â gofal personol fel ymolchi a gwisgo, mynd i’r toiled, eich helpu i reoli eich meddyginiaeth fel rhan o becyn gofal a chymorth a pharatoi prydau bwyd. Bydd staff yn gweithio â chi i ganfod ffordd a fydd yn eich cynorthwyo i fod mor annibynnol ag sy’n bosibl.

Mae eich barn am y gwasanaeth yn bwysig i ni a bydd gennych y cyfle i leisio unrhyw bryderon sydd gennych tra bod eich gwasanaeth yn cael ei ddarparu.

Yn ystod y 6 wythnos gyntaf o dderbyn gwasanaeth, fe fydd yn cael ei adolygu. Diben yr adolygiad yw asesu lefelau angen, achos mae’n bosibl y byddwch yn gwella yn ystod y cyfnod hwn gyda chymorth y gwasanaethau galluogi.

Os oes angen gwasanaeth parhaus arnoch ar ôl y cyfnod hwn, bydd eich gwasanaeth yn trosglwyddo i ddarparwr hir dymor arall.

Cysylltwch â ni:

Swyddog Dyletswydd i Oedolion
Parc Iechyd Keir Hardie
Ffordd Aberdâr
Merthyr Tudful
CF48 1BZ

Ffôn: 01685 725000
E-bost: adult.intakeservice@merthyr.gov.uk

Oriau Agor

8.30yb - 5.00yp Dydd Llun - Dydd Iau
8.30yb - 4.30yp Dydd Gwener