Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cynllun Cyhoeddi

Mae’n ofynnol o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 fod pob awdurdod cyhoeddus yn mabwysiadu ac yn cynnal Cynllun Cyhoeddi. Pwrpas Cynllun Cyhoeddi yw sicrhau fod awdurdodau’n gwneud yn siŵr fod cymaint o wybodaeth ag y sydd yn bosibl ar gael ar gyfer y cyhoedd.

Mae Cynllun Cyhoeddi Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn darparu gwybodaeth ynghylch y wybodaeth sy’n cael ei chyhoeddi’n awtomatig neu yn arferol gan y Cyngor. Mae’n cael ei chategoreiddio o dan y penawdau canlynol:

  • Cyfansoddiad a Democratiaeth
  • Cyllid ac Archwiliad
  • Blaenoriaethau a Pherfformiad
  • Gwneud Penderfyniadau
  • Polisïau a Gweithdrefnau
  • Rhestrau a Chofrestrau
  • Gwasanaethau’r Cyhoedd

Mae’r Cyngor wedi cynnwys gwybodaeth a fydd o ddiddordeb i bobl yn y Fwrdeistref.

Cyfansoddiad a Democratiaeth – Pwy ydym ni a beth ydym yn eu gwneud

Perthynas Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ag Awdurdodau Lleol eraill:

  • Gefeillio
  • Awdurdod Unedol
  • Partneriaethau
  • Cyrff Allanol

Cyllid ac Archwiliad – Beth ydym ni’n ei wario a sut rydym yn gwneud hynny 

Blaenoriaethau a Pherfformiad – Beth yw’n blaenoriaethau a sut ydym yn gwneud

Gwneud penderfyniadau – Sut ydym yn gwneud penderfyniadau

Polisïau a gweithdrefnau – Protocolau Ysgrifenedig Cyfredol ar gyfer Darparu’n Gwasanaethau

Rhestrau a Chofrestrau - Cofrestrau Cyhoeddus a Chofrestrau a gedwir fel Cofnodion Cyhoeddus

Gwasanaethau’r Cyngor – Gwybodaeth ynghylch y Gwasanaethau y mae’r Cyngor yn eu darparu

Gwasanaethau ar gyfer aelodau o’r cyhoedd:

Os na allwch ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch oddi fewn i’r Cynllun Cyhoeddi, cyflwynwch gais am wybodaeth i swyddog Rhyddid Gwybodaeth y Cyngor ar FOI@merthyr.gov.uk neu cwblhewch ffurflen gais ar-lein. Am geisiadau cyffredinol, defnyddiwch y ffurflen FfRhG. Mae’r ceisiadau yma’n cael eu prosesu yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

Os ydych yn gwneud cais am wybodaeth amgylcheddol, defnyddiwch y ffurflen Gwneud Cais am Wybodaeth Amgylcheddol y Cyngor. Mae’r ceisiadau hyn yn cael eu prosesu yn unol â Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004. 

Byddwch y ymwybodol fod llawer o’r wybodaeth sydd yn cael ei chadw gan y Cyngor yn bersonol a phreifat i unigolion. Os hoffech wneud cais am eich gwybodaeth bersonol, defnyddiwch ffurflen mynediad i bwnc y Cyngor. Ystyrir y ceisiadau hyn o dan Ddeddf Diogelu Data 1998.

Cysylltwch â Ni